Russell Tea Room
Mae'r ystafell de ar agor bob dydd tan ddiwedd mis Hydref, ond does dim rhaid i chi fod yn teithio ar y trên i alw i mewn. Mae yna fwydlen i blant ar gyfer y teithwyr llai ar y trên ac maent yn fodlon darparu ar gyfer gofynion dietegol arbennig. Gallant hefyd ddarparu ar gyfer eich achlysuron arbennig, ac ar gyfer partïon pen-blwydd plant - gofynnwch am fanylion.