Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant Harlech
Yn enwog yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, mae Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant yn un o brif gyrsiau golff Cymru ac yn aml mae'n cael ei ystyried y 'Cwrs golff gorau yng Ngogledd Cymru'. Mae'n cynnig prawf heriol o golff mewn lleoliad syfrdanol mewn ardal brydferth a hardd o Eryri, gyda Chastell Harlech yn darparu cefndir ysblennydd. Mae Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant yn gartref i un o'r cyrsiau traddodiadol glan môr gorau yn y byd, y ffyrdd clir tonnog a'r griniau pytio cyflym y cyfan a ddisgwylir gan gwrs pencampwriaeth. Dyma pam mae'r cwrs yng Nghlwb Golff Brenhinol Dewi Sant yn cael ei restru'n rheolaidd o fewn y 50 cwrs gorau ym Mhrydain Fawr ac Iwerddon.
Mae'r Clwb yn cynnal Cystadleuthau Cenedlaethol a Rhyngwladol o safon yn aml.