Clwb Golff Porthmadog
Mae gan Glwb Golff Porthmadog bopeth sydd ei angen ar gyfer diwrnod allan gwych gyda theulu a ffrindiau. Mae'r cwrs wedi'i leoli ym Morfa Bychan, 3 milltir i ffwrdd o dref harbwr Porthmadog ac fe'i sefydlwyd yn 1905 gan James Braid, dylunydd cwrs athrylithgar ei ddydd. Mae'n gwrs traddodiadol, cyfeillgar, heriol a ddim i'w golli. Rhostir yw'r naw twll cyntaf gyda'r ail naw yn faes glan môr, gyda golygfeydd trawiadol o arfordir Bae Ceredigion ac amrywiaeth mynyddoedd Eryri. Mae bygis, trolïau trydan a throlïau tynnu ar gael i'w llogi, ac mae dau faes ymarfer, rhwyd ymarfer a grîn pytio ar y safle i'ch helpu i baratoi ar gyfer eich rownd. Ar ôl rownd o golff, mae croeso i chi fwynhau pob rhan o'r clwb.