Traeth Llandanwg

Llandanwg, Harlech, Gwynedd, LL46 2SD

Mae Llandanwg, rhwng Abermaw a Harlech, yn enwog am ei Eglwys sydd dafliad carreg i ffwrdd oddi wrth y môr. Mae’r traeth yn cael ei warchod gan wyntoedd cryfion, gan ei wneud yn le delfrydol ar gyfer ymlacio. Mae’r ardal yn boblogaidd tu hwnt gyda physgotwyr - ble mae modd dal ci môr, bas, lleden a macrell. Ceir mynediad i’r traeth gan lwybr o’r maes parcio a thrwy’r twyni tywod. Bellach, mae’r traeth hwn, sydd yn gwynebu’r gorllewin, yn rhan o’r Parc Cenedlaethol Eryri. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar rai mannau o'r traeth. Adnabyddir Mochras, gerllaw, - sydd yn cael ei adnabod fel arfer gan ei enw Saesneg ‘Shell Island’ – fel man poblogaidd, sydd yn gyraeddadwy pan fo’r llanw allan, gyda thraeth, twyni tywod a nifer o wahanol fathau o gregyn. Yn ogystal â’r traeth mawr tywodlyd ceir amrywiaeth o flodau gwyllt a golygfeydd anfarwol. Cafwyd cyffro mawr yn yr ardal yn y 1960au, diolch i ymchwil ‘Daearegol Prydeinig’ yno.

Rhybudd Diogelwch Traeth Llandanwg

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Llandanwg. 

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Gofal - tonnau mawr yn torri
  • Peidiwch a defnyddio offer enchwythedig yn ystod gwynt alltraeth
  • Peidiwch a tyllu na thyrchu yn y twyni tywod
  • Gwaherddir cŵn o ran o'r traeth hwn (Ebrill 1af - Medi 30ain)
  • Creigiau a cherrig llithrig
  • Cadwch blant dan oruchwyliaeth 

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Arwydd Diogelwch Traeth Llandanwg Beach Safety Sign

Mwynderau

  • Parcio
  • Toiled
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Siop
  • Caffi/Bwyty