Amgueddfa'r Môr Porthmadog
Roedd harbwr prysur Porthmadog hyd yn oed yn fwy o dan ei sang 150 mlynedd yn ôl. Dewch i ddarganfod pam yn yr amgueddfa hon, sy’n adrodd stori’r gwaith adeiladu llongau yn y porthladd a’r cyfnod pan oedd y gwaith o allforio llechi yn ei anterth. Yn ddigon priodol, mae’r amgueddfa wedi’i lleoli yn y sied lechi olaf sydd ar ôl ar y cei. Mae hwylio a’r môr yn rhedeg drwy wythiennau Porthmadog. Mae’r amgueddfa yn dweud wrthych chi pam bod Cychod Hwylio Western Ocean y porthladd yn enwog am fod yn goeth ac o wneuthuriad ardderchog. Yna, yn goron ar y cwbl, neidiwch ar Reilffordd Ffestiniog i ddilyn llwybr y llechi o’r chwarel i’r porthladd.
Mae’r Amgueddfa’r Môr Porthmadog wedi cael eu hanrhydeddu â Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol, y wobr uchaf y gall grŵp gwirfoddol ei derbyn yn y DU ac mae'n gyfwerth â grŵp MBE. Cyhoeddwyd y wobr yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd ar 2 Mehefin 2019.
Gwobrau
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw