Tŷ Mawr Ynysypandy
Cwm Ystradllyn, Garndolbenmaen, Gwynedd, LL51 9AZ
Roedd chwarel Gorseddau yng Nghwmstradllyn wedi cael ei gweithio ar raddfa fechan ers 1836 ond cafodd ei datblygu yn sylweddol o 1854 ymlaen. Codwyd melin ddŵr trin slabiau aml-lawr uchelgeisiol, sef Tŷ Mawr Ynysypandy, ar batrwm ffowndri ond mewn gwirionedd roedd yn edrych yn debycach i abaty wedi mynd a’i ben iddo mewn ardal fynyddig. Agorwyd rheilffordd wedyn i’r harbwr ym Mhorthmadog. Cafodd y rheilffordd a Tŷ Mawr Ynysypandy o bosib eu cynllunio gan Sir James Brunlees, oedd yn gyfrifol am reilffordd Sao Paulo yn Brasil, rheilffordd pegwn Mont Cenis, Rheilffordd y Mersi a sawl un arall, ond saer maen lleol, Evan Jones oedd yn gyfrifol am godi’r felin.