Royal Sportsman Hotel
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
Dyma brif westy Porthmadog. Gwesty o safon ym Mhorthmadog ac un o bum prif westy uchaf 3* yr AA yng ngogledd Cymru, a dau rhosglwm yr AA am y bwyd; mae wedi’i gynnwys yn y Good Food Guide 2011, wedi ennill gwobr Rhagoriaeth y TripAdvisor ac wedi’i chynnwys yn Britain’s Best Hotel Guide yr AA. Byddwch yn teimlo’n gartrefol yma, wedi’i leoli’n ganolog ac yn cael ei redeg gan y teulu; croesawir babis a phlant o bob oed ac mae gennym ystafelloedd arbennig wedi’u neilltuo ar eich cyfer os bydd gennych anifeiliaid anwes. Mae yma 28 ystafell wely en-suite a gafodd eu hail ddylunio yn 2012; deunyddiau ymolchi moethus, cyfleusterau gwneud paned, sychwr gwallt a theledu sgrin fflat, Wi-Fi am ddim a pharcio am ddim.
Mwynderau
- Mannau ar gael ar gyfer ysmygwyr
- Gwasanaeth gwarchod/offer gwrando plant
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Croeso i bartion bws
- Cot ar gael
- Derbynnir cardiau credyd
- En-Suite
- Gardd
- Llofft llawr gwaelod
- Cadair uchel ar gael
- Mynediad i’r rhyngrwyd
- Trwyddedig/Trwydded Fwrdd/Bar neu Glwb Trwyddedig
- Gellir gadael y trefniadau yng ngofal trefnydd teithio
- Dim Ysmygu
- Parcio
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Darperir ar gyfer deiet arbennig
- Te/Coffi
- Ffôn yn yr ystafell/uned
- Teledu yn yr ystafell/uned
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Siaradir Cymraeg
- WiFi ar gael
- Pwynt gwefru cerbydau trydan
- Archebu ar-lein ar gael