Y Llew Coch
Mae'r Llew Coch yng nghanol Dinas Mawddwy gydag awyrgylch gwych, traddodiadol ond bywiog lle mae hanes y dafarn hon yn eich gorchuddio o'r eiliad i chi gerdded i mewn. Mae lle tân trawiadol yn eich cyfarch, wedi ei addurno, fel llawer o'r adeilad, mewn creiriau o'i gorffennol hynod ddiddorol. Y mae mewn lleoliad delfrydol ar gyfer archwilio'r ardal swynol yma, gyda bwyd gwych, cwrw wedi'i fragu'n lleol a llety ar gael trwy gydol y flwyddyn. Y bwyd yw'r hyn y mae pobl yn dod yma mewn gwirionedd, i gyd wedi'i wneud gan ddefnyddio cynnyrch lleol, wedi'i baratoi'n ffres bob dydd. Ffefrynnau lleol yw’r amrywiaeth o basteiod cartref swmpus a’r carfyri amser cinio Dydd Sul hynod boblogaidd, sy’n llenwi’r lle bob penwythnos, felly fe’ch cynghorir i archebu er mwyn osgoi cael eich siomi.