Rheilffordd Llyn Tegid
Mae Rheilffordd Llyn Tegid yn cynnig taith yn ôl a blaen o 9 milltir heibio Llyn Tegid, trwy harddwch Parc Cenedlaethol Eyri.Mwynhewch yr olygfa oddiar y trên o’r tirwedd a’r mynyddoedd - Arenig Fawr, Aran Benllyn ac Aran Fawddwy. Lleolir prif-orsaf y lein yn Llanuwchllyn; o’r fan hyn mae’r trenau yn cysylltu’r pentref gyda thref hanesyddol y Bala. Dewch i’n gweld ni’n codi stêm yn y bore cyn i chi ymuno ar y trên, ymwelwch â’r bocs signals, neu i’r bwffé am banad a phryd ysgafn.Mae’r trenau yn cychwyn o Lanuwchllyn, lle mae bwffé, cyfleusterau a byrddau pic-nic. Cewch barcio am ddim yn yr orsaf.Mae’r rheilffordd yn fan cychwyn am ymweliad i’r llyn neu i’r dref. Cerddwch i mewn i’r Bala a’i siopiau a chaffis, taith 10 munud - neu beth am ymadael y trên yn Llangywer i nofio, pysgota neu torheulo ar y glannau? Mae’n bosib parcio nifer bychan o geir wrth ymyl ein gorsaf Bala Penybont, neu defnyddiwch y meysydd parcio yn y dref, hanner milltir i ffwrdd.
Gwobrau
Mwynderau
- Caffi/Bwyty
- Yn agos i gludiant cyhoeddus