Afon Rhaiadr Country House

  • 1 Star Rating Star icon rating the accommodation 1 Stars
  • 2 Star Rating Star icon rating the accommodation 2 Stars
  • 3 Star Rating Star icon rating the accommodation 3 Stars
  • 4 Star Rating Star icon rating the accommodation 4 Stars
  • 5 Star Rating Star icon rating the accommodation 5 Stars

Afon Rhaiadr, Dolgellau, Gwynedd, LL40 2AH

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01341 450777

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page enquiries@afonrhaiadr.co.uk

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page http://www.afonrhaiadr.co.uk/

Gyda bryniau o'i gwmpas, golygfeydd syfrdanol ac amgylchedd moethus, mae tŷ gwledig Afon Rhaiadr yn lle perffaith ar gyfer egwyl hamddenol oddi cartref. Wedi'i leoli'n berffaith ar droed Cader Idris, ni allai tŷ gwledig Afon Rhaiadr fod yn fwy ddelfrydol. Wedi ei enwi'n briodol fel 'y tŷ wrth yr afon a rhaeadr', mae y Gwely a Brecwast bwtîc moethus yma o fewn Parc Genedlaethol Eryri, ac yn ymfalchio o gynnig croeso cynnes. Yn wreiddol yn gartref Fictoraidd mawr, cafodd ei ailwampio'n wych ac mae wedi ei addurno'n gelfydd, gyda chandeliers a hen greiriau, ynghŷd â thanau coed i gadw oerni'r gaeaf draw! Mae llieiniau o ansawdd, tywelion bath cysurus, defynyddiau toiled o safon a chyfyrddiadau unigol yn cael eu  darparu ym mhob ystafell wely moethus. Deffrowch i swn y rhaeadr. Mwynhewch frecwast Saesneg llawn bob bore i'ch gosod ar gyfer yr hyn yr ydych yn bwriadu ei wneud. Fe welwch bod digon i feddiannu eich amser gerllaw. Gellir trefnu rafftio dŵr, caiacio a beicio mynydd yn lleol ar gyfer y rhai mwy egniol, neu efallai y byddai'n well gennych weithgaredd fwy hamddenol a darganfod un o'r teithiau cerdded lleol hardd neu daith ymweliadol preifat. Mae fforio a gwylio adar hefyd yn deithiau perffaith, lle gallech chi weld y gweilch a'r barcud coch yn dda. Mae canolfan boblogaidd Coed y Brenin a'i ardaloedd coediog mawr ond ychydig bellter i ffwrdd, ac mae traeth tywodlyd Aberwaw o fewn 14 milltir. Beth bynnag a ddewisiwch, mi fyddwch chi'n caru pob munud. Mae croeso cynnes yn aros amdanoch yn nhŷ gwledig Afon Rhaiadr.
 

Mwynderau

  • Mannau ar gael ar gyfer ysmygwyr
  • En-Suite
  • Trwyddedig/Trwydded Fwrdd/Bar neu Glwb Trwyddedig
  • Darperir ar gyfer deiet arbennig
  • Peiriant golchi ar y safle
  • Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
  • Cadair uchel ar gael
  • Arhosfan bws gerllaw
  • Gweithgareddau awyr agored gerllaw
  • Dillad gwely ar gael
  • Gardd
  • Dim Ysmygu
  • Te/Coffi
  • Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
  • WiFi ar gael
  • Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
  • Caffi/Bwyty ar y safle
  • Derbynnir cardiau credyd
  • Parcio
  • Cawod
  • WiFi am ddim
  • Disgownt i grwpiau
  • Traeth gerllaw
  • Beicio mynydd gerllaw
  • Llwybr beicio gerllaw
  • Llwybr cerdded gerllaw

Gwobrau