The Buckley Arms
Ymlaciwch a mwynhewch pryd o fwyd yn y Bistro sydd ar agor bob nos yn y tymor uchel. Mae bwydlen amrywiol ar gael, gan gynnwys prydau llysieuol, bwyd môr, cig eidion a chig oen Cymru. Mae pwdinau blasus, coffi a danteithion bach yn cwblhau'r noson. Fe'ch cynghorir i archebu ymlaen llaw. Mae'r bar yn llawn cymeriad, gyda'i losgwr coed, pethau cofiadwy diddorol a dewis rhagorol o winoedd wedi'u cyflenwi gan Tanners Wine Merchants, detholiad da o gwrw a gwirodydd, y lle delfrydol i ymlacio ar ôl diwrnod o ymweld neu heicio neu i gynllunio gweithgareddau y diwrnod wedyn yn yr ardal.