Sgubor Ystumgwern
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
- 5 Stars
Mae Sgubor yn Ystumgwern, fferm weithredol organig, hanner ffordd rhwng Harlech ac Abermaw ac arfordir Bae Ceredigion. Fe’i crëwyd o adeilad fferm garreg draddodiadol ac mae wedi’i ddodrefnu a’i gyfarparu i’r safon uchaf, gan adlewyrchu arddull a chysur ffermdy drwyddo draw. Mae Sgubor yn fflat dwy ystafell wely ar y llawr gwaelod, ac mae'n cysgu hyd at bedwar, mewn un ystafell wely ddwbl ac un gefell. Mae gan y ddwy ystafell wely gyfleusterau en-suite, un gyda bath, ac un gyda chawod. Mae gan y gegin offer da gyda popty nwy, oergell, rhewgell, peiriant golchi llestri a meicrodon. Mae gan yr ystafell fyw ddigon o seddi cyfforddus ac mae ganddi deledu, DVD a system gerddoriaeth, ac mae gwres canolog nwy i gynhesu'r nosweithiau oer. Rhennir yr ystafell olchi dillad a'r ystafell sychu, ac mae'r ystafell gemau yn ffefryn cryf gydag oedolion a phlant fel ei gilydd.
Mwynderau
- En-Suite
- Peiriant golchi ar y safle
- Croesewir teuluoedd
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Cyfleusterau hamdden
- Cadair uchel ar gael
- Arhosfan bws gerllaw
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Dillad gwely ar gael
- Dim Ysmygu
- Te/Coffi
- Siaradir Cymraeg
- Cot ar gael
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- Fferm weithiol
- Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
- Llofft llawr gwaelod
- Darpariaeth ar gyfer ymwelwyr anabl
- Golff ar gael (ar y safle neu gerllaw)
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Parcio
- Cawod
- WiFi am ddim
- Golchdy
- Cyfleusterau plant
- Traeth gerllaw
- Beicio mynydd gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw