Glan-Y-Morfa
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
- 4 Stars
Ffermdy 300 mlwydd oed wedi'i adnewyddu'n wych, yn edrych dros aber Afon Dyfi a chefn gwlad syfrdanol Cymru. Gyda Phrosiect Gweilch Dyfi ychydig dros yr afon, ynghyd â Gwarchodfa Natur RSBP Ynys Hir, mae gan y tŷ atyniad arbennig i bawb sy'n hoff o adar. Barcutiaid, Creyr Glas ac os ydych chi'n ffodus, gall Gwalch y Môr achlysurol gael ei weld yn aml yn hedfan dros yr ardd. Darperir popeth o dywelion, ffrwythau, perlysiau a sbeisys a pasta, i fasged o logiau i'ch helpu i fwynhau'ch arhosiad yma. Mae gan y tŷ lawer o swyn o hen bethau teuluol, celf a ffotograffau lleol, i ddodrefn sydd wedi'u hadnewyddu yn unol â chalon ac enaid y tŷ. Mae gan yr ardd Chiminea llosgi pren ar gyfer y nosweithiau oerach yn gwylio'r haul yn mynd i lawr a barbeciw mawr ar gyfer nosweithiau haf. Cyrhaeddwch Glan-y-Morfa i lawr trac fferm a gynhelir yn dda, felly rydych chi'n sicr "oddi ar y llwybr cuddiedig", ond dim ond 10 munud o gerdded ar draws caeau a Choedwig Talgarth yw Clwb Gwlad Plas Talgarth, sydd â bar gwych ( Y Garth) a bwyty. Dim ond 15 munud mewn car ydi hi i o'r tŷ i gyrraedd traethau godidog a'r cuddfannau ar yr Aber a phentref glan môr Aberdyfi hyfryd. Mae Machynlleth yn 15 munud i'r cyfeiriad arall, yn llawn siopau hen drufareddau, yn ogystal â Marchnad wythnosol gwych sy'n gwerthu bwyd ffres lleol a chrefftau. Mae nifer o deithiau cerdded a llwybrau beicio i fyny yn y mynyddoedd gydaa Mynydd Cadair Idris enwog am y mwyaf anturus. Er bod nifer o deithiau cerdded ar gyfer pob lefel o amgylch yr ardal. Mae digon o fapiau a llyfrau yn y ffermdy i chi gynllunio eich diwrnod.
Mae'r perchnogion, sy'n berchnogion cŵn eu hunain, yn croesawu cŵn (mae hyd yn oed bowlenni sbâr ar eu cyfer), ond cofiwch fod y tŷ wedi'i amgylchynu gan dir fferm ac mae'r ardd wedi'i ffensio. Serch hynny, mae angen cadw pob ci dan reolaeth bob amser. Mae gan y tŷ 2 ystafell wely ddwbl fawr, 1 ystafell wely deulawr ac 1 ystafell wely gyda gwelyau bync maint llawn. Gellir gosod cot teithio yn ôl cais. Mae toiled a chawod yn yr ystafell ymolchi i fyny'r grisiau. Mae gan yr ail ystafell ymolchi i lawr y grisiau bath, cawod a thoiled. Mae'r gegin deulu fawr gyda bwrdd lle gall 8 eistedd, ac mae yna ystafell fwyta ar wahân sydd hefyd yn eistedd 8 o bobl. Mae ystafell eistedd gyfforddus â 2 soffa a llosgydd log agored Jotel. Mae yna deledu, darseinyddion 'bluetooth', ffilmiau, ynghyd â nifer o lyfrau a mapiau am yr ardal. Yng nghefn y tŷ mae ystafell aml-bwrpas / gemau gyda pheiriant golchi a sychwr, a rac sychu ar gyfer dillad gwlyb a rac esgidiau mwdlyd. Gellir hefyd storio beiciau yn ddiogel yma, gan fod rhai llwybrau mynydd gwych i fyny yn y mynyddoedd. Os ydych chi eisiau aros i mewn mae pêl-droed bwrdd a bwrdd dartiau "Diogel", ynghyd â nifer o gemau awyr agored: badminton, boules, a quoits. Mae cadair uchel a sgrîn dân. Mae gan y tŷ lawer o amrywiaeth o gemau bwrdd teulu a chardiau. Ni chaniateir ysmygu yn y tŷ.
Mwynderau
- Peiriant golchi ar y safle
- Croesewir teuluoedd
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Cadair uchel ar gael
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Dillad gwely ar gael
- Gardd
- Dim Ysmygu
- Te/Coffi
- Cot ar gael
- Caniateir anifeiliaid anwes drwy drefniant
- WiFi ar gael
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Parcio
- Cawod
- WiFi am ddim
- Beicio mynydd gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw
- Llwybr cerdded gerllaw