Sinema Magic Lantern
Mae Sinema Magic Lantern wedi bod yn Nhywyn ers 1893, ac fe'i hadeiladwyd gyntaf fel ystafelloedd ymgynnull y dref. Roedd yn un o'r sinemâu gweithredol cyntaf yn y DU gyda phrawf yn bodoli bod ffilmiau wedi'u dangos yma ers 1900. Erbyn heddiw mae'n sinema hollol fodern, gyda system taflunio digidol 4K (3D) a sain amgylchynol Dolby 7.1. Yn ogystal â dangos ffilmiau, mae yna raglen llawn yn cynnwys ffrydio byw o'r RSC a'r National Theatre, comedi byw a cherddoriaeth byw. Mae bar gyda dewis helaeth hefyd.
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Gweithgareddau awyr agored gerllaw
- Croesewir grwpiau
- Gorsaf tren gerllaw
- Traeth gerllaw
- Llwybr beicio gerllaw