Traeth Aberdyfi

Aberdyfi, Gwynedd, LL35 0EA

Mae Aberdyfi, yn un o’r mannau fwyaf deniadol yng Ngwynedd, yn sefyll ar smotyn darluniadol ble mae’r mynyddoedd yn cwrdd â’r môr, ar aber yr Afon Dyfi.  Mae’r traeth poblogaidd gyda’i thywod perffaith ac ambell i dwyni tywod bob hyn a hyn yn ymestyn am filltiroedd, oddi wrth Aberdyfi ei hun yr holl ffordd i Dywyn. Er bod y môr yn edrych yn groesawgar rhaid bod yn wyliadwrus, gan fod y cerrynt yn gallu bod yn gryf iawn yma, yn enwedig wrth agoriad y moryd. Porth gweithiol oedd Aberdyfi yn y dyddiau a fu. Ond, y dyddiau hyn, mae’r grefft o hwylio yn canolbwyntio ar hamdden a phleser - mae Aberdyfi yn ganolfan hwylio a chwaraeon dŵr prysur iawn, a bu teithiau cwch yn rhedeg o’r harbwr. Mae cyfyngiadau ar gŵn a hefyd parth gwahardd cychod.  Mae’r glan deheuol, ar hyd aber Dyfi, yn rhan o’r Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.  Yn ogystal, mae’r ardal hon yn hafan i fywyd gwyllt ac yn safle Ramsar (wedi ei enwi ar ôl confensiwn sydd yn annog defnydd doeth o gorstir eithriadol y byd).

Rhybudd Diogelwch Traeth Aberdyfi 

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Aberdyfi. Edrychwch am yr arwyddion coch sy’n cynnwys gwybodaeth perthnasol am y rhan hynny o’r traeth, gan gynnwys pryd a lle caniateir cŵn.

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt terfol
  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Gofal - tonnau mawr yn torri
  • Traeth graddfa serth
  • Peidiwch a cael eich torri ffwrdd ar y banciau tywod
  • Byddwch yn wyliadwrus o farcud pŵer
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Gofal - gweithgareddau cychod
  • Byddwch yn wyliadwrus o gerbydau yn symud ar y llithrfa
  • Gofal - cychod yn defnyddio'r Ianfa
  • Cychod    masnachol yn gweithredu
  • Peidiwch a tyllu na thyrchu yn y twyni tywod
  • Peidiwch a dringo ar strwythur y lanfa
  • PERYGL - Dim neidlo oddi ar y lanfa
  • Dim nofio yn yr harbwr

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Diogelwch Traeth Aberdyfi Beach Safety

Mwynderau

  • Parcio
  • Toiled
  • Mynedfa i’r Anabl
  • Siop
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus