Castell Caernarfon

Castle Ditch, Caernarfon, Gwynedd, LL55 2AY

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01286 677617

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page CaernarfonCastle@gov.wales

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page https://cadw.gov.wales/daysout/caernarfon-castle/?skip=1&lang=cy

Retail Book Direct Icon for Snowdonia retail page Llogi yn Uniongyrchol

Cawres o gaer. Mae cadernid anhygoel Castell Caernarfon yn bresenoldeb bygythiol. Byddai ymosod ar y strwythur enfawr hwn wedi bod yn syniad brawychus. Drwy ddefnyddio carreg i bwysleisio ei awdurdod, creodd y Brenin Edward I un o’r cestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. Yn gwbl haeddiannol o statws Treftadaeth y Byd. Tyrau crwn sy’n nodweddu’r rhan fwyaf o gestyll, ond nid Caernarfon! Tyrau polygon a welir yma, gyda Thŵr yr Eryr yn goron arnynt. Sylwch hefyd ar y ffordd mae’r cerrig wedi’u trefnu’n ofalus mewn bandiau lliw. Nid ar ddamwain y dewiswyd lleoliad y castell mawreddog hwn. Castell mwnt a beili Normanaidd a welwyd ar y safle yn flaenorol, a chyn hynny safai caer Rufeinig gerllaw. Roedd atynfa’r dŵr a mynediad hawdd i’r môr yn golygu bod glannau Afon Seiont yn fan delfrydol ar gyfer y cawr hwn o gastell a adeiladwyd gan Edward. Nid oedd Edward yn un i golli cyfle i atgyfnerthu ei afael ar y boblogaeth frodorol. Roedd genedigaeth ei fab, Tywysog Seisnig cyntaf Cymru, yn y castell yn 1284, yn ffordd berffaith o ddangos ei oruchafiaeth. Yn 1969, cafodd Tywysog presennol Cymru, EUB Tywysog Siarl ei arwisgo yma. Wrth ymweld â’r gaer ysblennydd hon, peidiwch â cholli’r cyfle i weld Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, sydd wedi’i lleoli yn un o dyrau’r castell. Fel sy’n wir am Gastell Harlech, Castell Conwy a Chastell Biwmares, bu’r heneb hon yn rhan o Cestyll a Muriau Trefol Edward 1 Safle Treftadaeth y Byd ers 1986.

Gwobrau

  • Thumbnail

Mwynderau

  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
  • Llwybr beicio gerllaw
  • Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
  • Siop
  • Arhosfan bws gerllaw
  • Croesewir grwpiau