Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig
Mae’r Amgueddfa wedi’i lleoli mewn dau dŵr yng Nghastell Caernarfon. Ynddi fe welwch gyfoeth o wrthrychau ynghyd â ffilm, sain a modelau, sy’n adrodd hanes dros 300 o flynyddoedd o wasanaeth catrawd troedfilwyr hynaf Cymru, mewn adegau o heddwch a rhyfel, ar draws y byd. Cewch ddysgu sut yr enillodd y Gatrawd 14 o Groesau Fictoria a chlywed geiriau’r llenorion enwog a wasanaethodd gyda’r Ffiwsilwyr Cymreig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf - Siegfried Sassoon, Robert Graves, “Hedd Wyn”, David Jones a Frank Richards. Fe welwch sut fywyd oedd gan y milwr cyffredin a’i deulu a dysgu am draddodiadau unigryw’r Gatrawd. Mae hanes y Ffiwsilwyr Cymreig yn dechrau gyda chyrchoedd William III, ac yn cynnwys rhyfeloedd Marlborough, Rhyfel Annibyniaeth America, rhyfeloedd â Ffrainc Chwyldroadol a Ffrainc Napoleon, Rhyfel y Crimea, Rhyfel y Boer a Tsieina. Bu nifer o fataliynau’r Gatrawd yn ymladd yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Mewn cyfnodau o heddwch, mae’r Ffiwsilwyr Cymreig wedi darparu milwyr garsiwn yng Nghanada, India, Hong Kong ac India’r Gorllewin. Yn fwy diweddar mae’r Ffiwsilwyr Cymreig wedi bod ar sawl cyfnod o ddyletswydd yng Ngogledd Iwerddon ac wedi’u hanfon ar ymgyrchoedd cadw heddwch a dyngarol, yn aml dan adain y Cenhedloedd Unedig neu NATO. Mae’r cyrchoedd hyn yn cynnwys cyfnodau yn Bosnia, Iraq ac Afghanistan. Ar Fawrth 1af 2006 cyfunwyd y Catrodau Troedfilwyr Cymreig i greu catrawd newydd - y Cymry Brenhinol. Rhwng 2006 a 2014 cafodd y teitl Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig ei gadw fel Bataliwn 1af y Cymry Brenhinol (y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig). Gyda mwy o doriadau amddiffyn yn 2014 cyfunwyd y Catrod 1af a’r 2il i greu y Bataliwn 1af, y Cymru Brenhinol (23ain/24ain/41ain ar Droed). Mae gwerthoedd, traddodiadau a treftadaeth y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig nawr yn cael ei gadw gan Fataliwn 1af y Cymry Brenhinol a’r 3ydd Bataliwn Wrth Gefn, y Cymry Brenhinol.
Gwobrau
Mwynderau
- Siop
- Llwybr beicio gerllaw
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
- Croesewir grwpiau