Cadw - Drysau Agored

  • 1 Medi 2022 - 30 Medi 2022

Caernarfon, LL55 2AY

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page https://cadw.llyw.cymru/ymweld/be-syn-digwydd/drysau-agored

Ym mis Medi eleni, bydd mwy na 200 o safleoedd hanesyddol, tirnodau a pherlau cudd Cymru yn cynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywys am ddim i ymwelwyr.

Mae'r cyfan yn rhan o wŷl Drysau Agored — cyfraniad blynyddol Cymru i'r fenter Diwrnodau Treftadaeth Ewropeaidd, sy'n gwahodd sefydliadau treftadaeth, perchnogion preifat, awdurdodau lleol ac eraill i agor eu drysau neu gynnig gweithgareddau i'r cyhoedd yn rhad ac am ddim yn ystod mis Medi.

Wedi'i hariannu a'i threfnu gan Cadw, bydd gŵyl boblogaidd treftadaeth adeiledig Cymru eleni yn annog trigolion Cymru a’i hymwelwyr i ddarganfod rhai o safleoedd y wlad sy’n llai adnabyddus ac yn llai o ran maint ― gyda nifer ohonynt fel arfer ar gau i'r cyhoedd.

Rhestr o'r digwyddiadau.