Portmeirion

  • 1 Star Rating Star icon rating the accommodation 1 Stars
  • 2 Star Rating Star icon rating the accommodation 2 Stars
  • 3 Star Rating Star icon rating the accommodation 3 Stars
  • 4 Star Rating Star icon rating the accommodation 4 Stars

Minffordd, Penrhyndeudraeth, Gwynedd, LL48 6ER

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01766 770000

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page aros@portmeirion.cymru

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page https://portmeirion.cymru/stay

Retail Book Direct Icon for Snowdonia retail page Llogi yn Uniongyrchol

Wedi’i leoli ar benrhyn preifat ei hun yn edrych allan dros olygfeydd arfordirol trawiadol mae Portmeirion, yng nghalon Eryri, wedi bod yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru ers 1926. Yn ogystal â’i bensaernïaeth eiconig, amgylcheddau golygfaol a gerrid eang, mae Portmeirion yn gartref i ddau westy hip, clwstwr o fythynnod hanesyddol, sba, siopau a bwytai arobryn. Dyma fan unigryw wedi’i amgylchynu gan draethau euraid, dyfroedd disglair a choetiroedd hudolus.
Gwestai:
Gwesty Portmeirion
Pensaernïaeth gain gydag awgrym echreiddig - dyna, yn gryno, yw Gwesty Portmeirion. Mae’r adeilad rhestredig Gradd II yn llawn dop o nodweddion gwreiddiol. Henbethau, a golygfeydd trawiadol.
Mae’r bwyty Art Deco arobryn hwn yn brysur ennill enw da iddo’i hun am ei arlwy uchelgeisiol ac arloesol. Gan ddefnyddio cynnyrch lleol yn bennaf, mae Mark Threadgill, y prif gogydd, wastad yn datblygu prydau newydd i ryfeddi ei giniawyr. Ac os nad yw ei fwyd celfydd yn ddigon i wneud argraff - arhoswch nes gwelwch chi’r golygfeydd!
Castell Deudraeth
Steil gyfoes a phensaernïaeth Duduraidd - fyddech chi ddim yn disgwyl iddyn gyfuno’n dda, ond mae’n gweithio i’r dim ac mae’r cyfuniad wedi trawsnewid gwesty Castell Deudraeth I fod yn gyrchfan o fri, gyda gardd Fictoraidd a golygfeydd gwledig prydferth. Dim ond tafliad carreg o’r pentref mae’r adeilad rhestredig Gradd II hwn, felly gallwch fwynhau’r holl fwytai a siopau sydd gan Bortmeirion i’w gynnig.Mae’r Brasserie Castell Deudraeth yw bwyty croesawgar sydd wedi bod yn ar adain flaen arlwy Cymreig ers blynyddoedd. Wrth ei galon mae gwasanaeth heb ei ail a chyfres o brydau syml ond hynod sy’n plesio bob tro. Gallwch ddewis eistedd yn yr ystafell wydr olau, braf yn edrych allan dros gefn gwlad a’r gerddi Fictoraidd, neu gael mwy o breifatrwydd yn Ystafell yr Aber. Wedyn enciliwch i’r lolfa i fwynhau diod wrth y tan. Mae’r paneli derw wedi’u hadfer a’r pentan addurnedig yn cynnig awyrgylch cynnes i ymlacio ynddo.
Village Rooms
Yn edrych fel petai ar y Rifiera Eidalaidd, mae Portmeirion yn cynnig adeiladau lliwgar a morluniau trawiadol. Mae pob un o’n 32 ystafell a gwasanaeth o fewn y pentref yn llawn cymeriad. Arhoswch yn y swît lle’r ysgrifennodd Noel Coward Blithe Spirit, neu yn y bwthyn pen clogwyn ble bu George Harrison yn aros.

 

Mwynderau

  • Mannau ar gael ar gyfer ysmygwyr
  • En-Suite
  • Trwyddedig/Trwydded Fwrdd/Bar neu Glwb Trwyddedig
  • Darperir ar gyfer deiet arbennig
  • Croesewir teuluoedd
  • Ffôn yn yr ystafell/uned
  • Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
  • Cadair uchel ar gael
  • Arhosfan bws gerllaw
  • Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
  • Gweithgareddau awyr agored gerllaw
  • Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
  • Croeso i bartion bws
  • Gardd
  • Dim Ysmygu
  • Te/Coffi
  • Siaradir Cymraeg
  • Cot ar gael
  • WiFi ar gael
  • Gwasanaethau Busnes
  • Sba
  • Adeilad hanesyddol/heneb gerllaw
  • Darpariaeth ar gyfer ymwelwyr anabl
  • Gorsaf tren gerllaw
  • Golff ar gael (ar y safle neu gerllaw)
  • Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
  • Caffi/Bwyty ar y safle
  • Derbynnir cardiau credyd
  • Llofft llawr gwaelod
  • Lifft
  • Parcio
  • Cyfleusterau cynhadledd ar gael
  • Pwll nofio
  • Cawod
  • WiFi am ddim
  • Golchdy
  • Croesewir grwpiau
  • Disgownt i grwpiau
  • Traeth gerllaw
  • Beicio mynydd gerllaw
  • Llwybr beicio gerllaw
  • Llwybr cerdded gerllaw
  • Pwynt gwefru cerbydau trydan
  • Archebu ar-lein ar gael

Gwobrau

  • Thumbnail