Castell Deudraeth
Yng Nghastell Deudraeth, gallwch fod yn siŵr o awyrgylch clyd, cyfeillgar ynghyd â gwasanaeth heb ei ail, a phrydau sy’n syml ond eto’n ddigon o sioe ar eich plât. Gallwch eistedd yn y bwyty braf gyda golygfeydd o’r cefn gwlad a’r gerddi Fictoraidd o’ch cwmpas, neu encilio i’r Lolfa i sipian diod wrth y lle tân.