Atyniadau
Dinas Dinlle
Atyniadau
Traeth poblogaidd iawn a hawdd cyrraedd ato yw Dinas Dinlle. Mae’r glan uchaf wedi ei orchuddio gan gerrig man, ond yna ceir ehangder mawr o dywod, euraidd, cadarn.
Dinas Dinlle, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5TW
Labrinth y Brenin Arthur
Atyniadau
Hwyliwch drwy'r rhaeadr danddaearol i le hudolus llawn dreigiau, cewri a'r Brenin Arthur. Yn nyfnderoedd y Labrinth, trwy geudyllau enfawr a thwneli troellog, darganfyddwch chwedlau Cymreig hynafol wrth gael arweiniad cychwr o’r Oesoedd Tywyll.
Parc Glynllifon
Atyniadau
Dyma berl annisgwyl! Byddwch yn darganfod gerddi hanesyddol helaeth - rhestredig Gradd I - gyda llwybrau cerdded drwy’r coedwigoedd, ffoleddau a cherfluniau.
Porthdinllaen
Atyniadau
Hen bentref bach pysgota yw Porthdinllaen, gydag ymrwymiad cryf â’i môr. Mae’r traeth tywodlyd yn ehangu dros gildraeth perffaith a harbwr naturiol, lle ceir Gorsaf Bad Achub ar un pen.
Morfa Nefyn, Gwynedd, LL53 6DA
Porthor
Atyniadau
Mae’r traeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol fychan, darluniadol hwn, sydd yn cael ei gefnu gan glogwyni glaswelltog, wedi ei leoli ar Arfordir Treftadaeth Llŷn.
Aberdaron, LL53 8LH
Traeth Aberdaron
Atyniadau
Yn Aberdaron, ar Arfordir Treftadaeth Llŷn, ceir traeth tywodlyd godidog sydd â mynediad rhwydd (yn cynnwys mynediad anabl).
Aberdaron, Gwynedd, LL53 8BE