Porthor

Aberdaron, LL53 8LH

Mae’r traeth Ymddiriedolaeth Genedlaethol fychan, darluniadol hwn, sydd yn cael ei gefnu gan glogwyni glaswelltog, wedi ei leoli ar Arfordir Treftadaeth Llŷn. Caiff ei adnabod gan ei lys enw Saesneg ‘Whistling Sands’, enw a gafwyd oherwydd y sŵn a gaiff ei wneud wrth gerdded dros y tywod gwyn. Daw’r sŵn oherwydd straen croeswasgiad pwysau ar y tywod, a dim ond dau draeth yn Ewrop gyfan sydd yn gwenud hyn.  Mae’r maes parcio agosaf 590ft/180m i ffwrdd, er nid yw hyn yn ei rhwystro rhag bod yn hynod o boblogaidd gyda theuluoedd yn chwilio am ddiwrnod allan. Mae’r golygfeydd oddi wrth y traeth - a nifer o’r llwybrau cerdded - yn anfarwol. Mae cyfyngiadau ar gŵn ar yr traeth. Drwy gydol misoedd yr haf ceir siop a thoiledau.

Rhybudd Diogelwch Traeth Porthor

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Porthor. 

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Gofal - tonnau mawr yn torri
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
  • Clogwyni ansefydlog - peidiwch â dringo neu dyllu i mewn i’r clogwyni
  • Cadwch blant dan oruchwyliaeth 

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Mwynderau

  • Parcio
  • Toiled
  • Siop