Dinas Dinlle
Dinas Dinlle, Caernarfon, Gwynedd, LL54 5TW
Traeth poblogaidd iawn a hawdd cyrraedd ato yw Dinas Dinlle. Mae’r glan uchaf wedi ei orchuddio gan gerrig man, ond yna ceir ehangder mawr o dywod, euraidd, cadarn. Mae’r ymdeimlad o wacter yn anhygoel - mewn tywydd da mae modd gweld yr holl ffordd tuag at Lŷn ac ar draws i Ynys Llanddwyn, Ynys Môn. Oherwydd ei gynefin naturiol gwerthfawr, mae Dinas Dinlle yn ‘Safle o Ddiddordeb Gwyddonol’. Ond yn ogystal, mae hefyd yn fan o ddiddordeb i archeolegwyr a haneswyr gan fod olion o’r Oes Haearn yno, a daw adaregwyr yma i wylio’r boblogaeth adar a genweirwyr i bysgota bas gwych. Mae parth cyfyngiadau ar gŵn ar y traeth.
Yno mae caffi gyda amrywiaeth o frecwast Cymreig wedi ei wneud o gynnyrch lleol i ginio ysgafn o frechdanau, paninis a chawliau cartref neu mwynhewch de bach y prynhawn gyda un o’u cacennau cartref blasus.
Rhybudd Diogelwch Traeth Dinas Dinlle
Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir.
Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Dinas Dinlle. Edrychwch am yr arwyddion coch sy’n cynnwys gwybodaeth perthnasol am y rhan hynny o’r traeth, gan gynnwys pryd a lle caniateir cŵn.
- Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt terfol
- Gofal – tonnau mawr yn torri
- Gofal – gwrthrychau tanddwr
- Traeth graddfa serth, dŵr dwfn ar dop llanw
- Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
- Creigiau ansefydlog a llithrig - peidiwch â dringo neu neidio oddi ar y creigiau
- Clogwyni ansefydlog - peidiwch â dringo neu dyllu i mewn i’r clogwyni
Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau
Mwynderau
- Parcio
- Toiled
- Mynedfa i’r Anabl
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Siop
- Caffi/Bwyty