Traeth Aberdaron

Aberdaron, Gwynedd, LL53 8BE

Yn Aberdaron, ar Arfordir Treftadaeth Llŷn, ceir traeth tywodlyd godidog sydd â mynediad rhwydd (yn cynnwys mynediad anabl).  Mae’r pentref darluniadol hwn, ar flaen rhan orllewinol y Llŷn ger y moroedd ysblennydd, sydd yn gartref i nifer o chwaraeon dŵr - yn cynnwys syrffio a hwylio ‘wake’ - ac yn gartref blynyddol i ŵyl regata.  Er mai tywodlyd yw’r rhan fwyaf o’r traeth mi geir ambell i garreg fawr bob hyn a hyn, ond caiff eich sylw ei ddwyn oddi wrth rhain a’i gyrru tuag at y pentiroedd hyfryd sydd i’w gael ar ddwy ochor o’r traeth. Nid yn unig y bydd y pentiroedd hyn yn creu golygfeydd gwych ond maent hefyd yn cynnig cysgod i’r traeth. Caiff cŵn eu croesawu os ydynt yn cadw i ochor chwith o’r llithrfa. Mae parth gwaharddiad cychod pŵer yma er mwyn ceisio gwarchod nofwyr. Ceir dewis da o dripiau cychod hefyd, o dripiau pysgota i deithiau dros y lli i Ynys Enlli,  ‘Ynys i 20,000 o seintiau’ sydd yn llawn etifeddiaeth a bywyd gwyllt. Ceir digonedd o lefydd parcio, siopau a chaffis, ac mae hefyd ddewis helaeth o lety ar gyfer pob ymwelydd.

Rhybudd Diogelwch Traeth Aberdaron 

Dilynwch ganllawiau Mentra’n Gall a’r RNLI i gael mwyniant diogel o’n arfordir. 

Byddwch yn ymwybodol o’r peryglon canlynol ar draeth Aberdaron. Edrychwch am yr arwyddion coch sy’n cynnwys gwybodaeth perthnasol am y rhan hynny o’r traeth, gan gynnwys pryd a lle caniateir cŵn.

  • Byddwch yn wyliadwrus o gerrynt cryf
  • Gofal - tonnau mawr yn torri
  • Byddwch yn wyliadwrus o afon ddofn gyda llif cyflym
  • Cymerwch ofal gydag offer enchwythedig mewn gwynt cryf
  • Ymyl dirwystr – cymerwch ofal
  • Byddwch yn wyliadwrus o gychod pŵer
  • Byddwch yn wyliadwrus o gerbydau yn gyrru yn yr ardal lansio 
  • Clogwyni ansefydlog - peidiwch â dringo neu dyllu i mewn i’r clogwyni

Mewn argyfwng galwch 999 a gofynnwch am Wylwyr y Glannau

Diogelwch Traeth Aberdaron Safety

Mwynderau

  • Parcio
  • Toiled
  • Mynedfa i’r Anabl
  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Siop
  • Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw