Ffordd yr Arfordir

Mae Ffordd yr Arfordir yn rhedeg ar hyd Bae Ceredigion yn gyfan. Llwybr 180 milltir (290 cilomedr) o hyd ydyw sy’n nadreddu rhwng moroedd glas ar y naill ochr a mynyddoedd mawr ar y llall.

O Aberdaron i Dyddewi, mae’r arfordir yn frith o drefi harbwr a chyrchfannau, pentrefi pysgota a childraethau cudd. Mae ardaloedd eang o dywod, clogwyni anferth, yn ogystal â thraethau o bob math.

Mae digonedd o ddolenni a chilffyrdd i’w harchwilio: arfordir gogledd Pen Llŷn, Eryri, Pumlumon, Y Preseli … cyfleoedd di-ri i ddarganfod eich mannau dirgel eich hun.

Dewch i adnabod Ffordd yr Arfordir

Mae cymaint i'w weld ar hyd Ffordd yr Arfordir, mae'n anodd gwybod lle i ddechrau. I'ch rhoi ar y trywydd iawn, rydym wedi creu cyfres o deithlenni gyda thema iddynt gan gynnwys rhai antur, cerdded, golff, treftadaeth, tirlun, bwyd a diod.

Zip World Titan

Mae'r tripiau epic yma yn dangos y gorau sydd gan Ffordd yr Arfordir i'w gynnig gan gynnwys zipio gyda'ch ffrindiau yn yr ardal fwyaf zip yn Ewrop. Darganfyddwch ein treftadaeth drwy ymweld â Llechwedd ar y rheilffordd cebl mwyaf serth ym Mhrydain a Chastell Harlech, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, adeiladwyd gan Edward I rhwng 1282 a 1289.

Harlech Castle

Mae llawer mwy i'w weld gan gynnwys Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, Beicio Mynydd Antur Stiniog a Nant Gwrtheyrn Canolfan Iaith a Threftadaeth Cymru.

European Agricultural Fund for Rural Development Logo