Ffordd yr Arfordir: Golygfeydd Godidog

Gan redeg ar hyd Bae Ceredigion gyfan, o Aberdaron yn y gogledd i Dŷ Ddewi yn y de, mae Ffordd yr Arfordir yn un o dri llwybr teithio cenedlaethol Ffordd Cymru sy'n ymestyn am 180 milltir/290km.  Yn hytrach na chyfres gadarn o gyfarwyddiadau, mae pob 'Ffordd' yn llwybr hyblyg gyda digon o gyfleoedd i grwydro oddi ar y prif lwybr, gan ddilyn llwybrau a gwyriadau fel y gallwch greu eich siwrne bersonol eich hun.  

Mae'r rhaglen dridiau hon yn amlygu rhai o'r tirweddau mwyaf trawiadol a'r golygfeydd mwyaf syfrdanol sydd i'w cael ar Ffordd yr Arfordir ac o'i chwmpas, o'r traethau tywodlyd a'r clogwyni môr creigiog i'r mynyddoedd niwlog a'r safleoedd hynafol llawn awyrgylch.

Diwrnod 1

Dechreuwch arni trwy fynd ar daith ar hyd arfordir dramatig Penrhyn Llŷn, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol wyllt a grymus sy'n ymestyn allan i'r môr fel braich.  Dilynwch yr arfordir gogleddol i Aberdaron, Penrhyn Penwaed (Land's End) dramatig Llŷn, cyn gyrru wedyn ar hyd yr arfordir deheuol i gyfeiriad copaon uchel Eryri, â dyfroedd glas Bae Ceredigion wrth eich hochr.

Porth Ceiriad, Llŷn
Porth Ceiriad, Llŷn


Wedi hynny, ewch ar daith dwristaidd trwy fynyddoedd uchel Parc Cenedlaethol Eryri, gan ddilyn y ffordd o Borthmadog sy'n mynd â chi trwy Feddgelert, Capel Curig a Betws-y-Coed, cyn troi am y de heibio i 'brifddinas llechi' hanesyddol Blaenau Ffestiniog ac ymlaen at yr A470. Pan fyddwch ar fin cyrraedd Dolgellau, trowch i fynd ar yr A496 i ddilyn Aber Mawddach tuag at Abermaw. Mae'r ffordd hon, sydd wedi ei hamgylchynu gan fryniau coediog a mynyddoedd niwlog, yn datgelu golygfeydd i'ch gadael yn gegagored wrth iddi nadreddu tua'r môr.

Awgrym i aros dros nos: Abermaw.

Diwrnod 2

Ewch ar y ffordd arfordirol trwy Aberdyfi a heibio aber afon Ddyfi (perl mynydd-a-môr arall) i dref farchnad fohemaidd Machynlleth. Gyrrwch tua'r de ar yr A487, a dilyn y B4353 i gyfeiriad yr arfordir. Rhwng Ynyslas a Borth, byddwch yn pasio heibio i Gors Fochno, ardal brin o gyforgors fawn sy'n ferw o rywogaethau planhigion prin megis y gwlithys cigysol (carnivorous sundew). Os yw amodau'r llanw yn gywir, mae'n bosib y cewch gip ar goedwig danddwr o goed hynafol yn y tywod ar y glannau. 

Ewch yn eich blaen ar hyd yr arfordir i Aberystwyth, cyn ailymuno â'r A487 a theithio i gyfeiriad Aberaeron, gan drwytho'ch hun yn y golygfeydd morol godidog dros Fae Ceredigion wrth i chi fynd.  Dewch â'r dydd i ben yn hud y Mwnt, un o berlau cudd Ceredigion. Mae'r traeth cysgodol, tywodlyd yn berffaith i fynd i ymdrochi, tra bod cerdded i ben Foel y Mwnt yn hanfodol os am wylio dolffiniaid a gweld golygfeydd godidog tuag Ynys Aberteifi i'r gorllewin a thua'r gogledd i gyfeiriad Eryri.

Mwnt
Mwnt


Awgrym i aros dros nos: Aberteifi.

Diwrnod 3

O Aberteifi, dilynwch y ffordd arfordirol trwy Landudoch i Draeth Poppit i gerdded ar Lwybr Arfordir Sir Benfro i Drwyn garw ac anghysbell Cemaes.

Cemaes Head, the remotest stretch of the Pembrokeshire Coast path
Trwyn Cemaes, rhan mwyaf anghysbell Llwybr Arfordir Sir Benfro

Ewch yn eich blaen i dref glan môr ffasiynol Trefdraeth, cyn dilyn ffordd gefn tua'r de ac i fewn i fryniau hiraethus y Preseli. Tua milltir ar hyd y ffordd i Gilgwyn, byddwch yn gweld maes parcio sylweddol gyda llwybr cerdded sy'n arwain i gopa Carn Ingli.   Mae Carn Ingli ('Mynydd yr Angylion') yn fryngaer atmosfferig o Oes yr Haearn, a saif ar gopa creigiog 1,135 troedfedd / 346m uwchlaw Trefdraeth.

O gopa Carn Ingli, ceir golygfeydd trawiadol dros Fae Trefdraeth a thu hwnt
O gopa Carn Ingli, ceir golygfeydd trawiadol dros Fae Trefdraeth a thu hwnt

Ewch yn ôl at yr A487 i deithio heibio Abergwaun ac ymlaen i Ben Strwmbl neu Ben Caer. Caiff yr ardal ei dominyddu gan Oleudy Strwmbl, a saif ar ynys fechan ychydig oddi ar yr arfordir. Dyma leoliad heb ei ddofi sy'n cynnwys gwylfa adar, gan ei wneud yn lecyn hoff i wylwyr bywyd gwyllt.

Strumble Head is a popular location for coastal wildlife watching
Mae Pen Strwmbl yn leoliad poblogaidd i wylio bywyd gwyllt arfordirol

 

Awgrym i aros dros nos: Abergwaun.