Ffordd y Gogledd

Mae Ffordd y Gogledd yn dilyn yr hen lwybr masnachu 75 milltir (120 cilomedr) ar hyd ein harfordir gogleddol i Ynys Môn. Mae’r tri chastell anferth yn dal eich sylw ar unwaith: Biwmares, Caernarfon a chaer furiog Conwy. Ynghyd â Chastell Harlech, mae’r clwstwr hwn o amddiffynfeydd anferth y drydedd ganrif ar ddeg yn llunio safle Treftadaeth Byd UNESCO.

Mae digonedd o ddolenni a dargyfeiriadau diddorol hefyd. Oddi yma gallwch archwilio mynyddoedd Eryri, Afon Menai, a’n hynys fwyaf, Môn Mam Cymru. Dyma’r porth i Ddyffryn Conwy a Dyffryn Clwyd, lle mae cyfres o drefi marchnad hardd ar y daith i Langollen. Mae Ffordd y Gogledd hefyd yn cysylltu’n hawdd â’i chwaer Ffyrdd, trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau beicio a cherdded hir.

Dewch i adnabod Ffordd y Gogledd

Mae cymaint i'w weld ar hyd Ffordd yr Arfordir, mae'n anodd gwybod lle i ddechrau. I'ch rhoi ar y trywydd iawn, rydym wedi creu cyfres o deithlenni gyda thema iddynt gan gynnwys rhai antur, cerdded, golff, treftadaeth, tirlun, bwyd a diod, cestyll a mannau hanesyddol, siwrne Gymreig, trefi a phentrefi a phenwythnos hir yng Ngogledd Cymru.

GreenWood Family Park

Mae'r tripiau epic yma yn dangos y gorau sydd gan Ffordd y Gogledd i'w gynnig gan gynnwys zipio ar y lein zip mwyaf yn y byd lle mae posib trafeilio dros 100mya. Beth am fynd ar y cert sglefrio sy'n cael ei bŵer gan pobl yn Gelli Gyffwrdd neu ewch i ddarganfod ein diwylliant a threftadaeth yn yr Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.

Nefyn Golf Club

Mae llawer mwy i'w weld gan gynnwys Castell Caernarfon sy'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Castell Penrhyn - plas coegwych o'r 19eg ganrif, gwinllannoedd a pherllannau sydd wedi ennill amryw o wobrau a chwrs golff 27 twll o safon pencampwriaeth sydd wedi'i leoli ar hyd arfordir gogleddol Pen Llŷn.

European Agricultural Fund for Rural Development Logo