Ffordd yr Arfordir: Cysylltiadau Diwylliannol

Gan redeg ar hyd Bae Ceredigion gyfan, o Aberdaron yn y gogledd i Dŷ Ddewi yn y de, mae Ffordd yr Arfordir yn un o dri llwybr teithio cenedlaethol Ffordd Cymru sy'n ymestyn am 180 milltir/290km.  Yn hytrach na chyfres gadarn o gyfarwyddiadau, mae pob 'Ffordd' yn llwybr hyblyg gyda digon o gyfleoedd i grwydro oddi ar y prif lwybr, gan ddilyn llwybrau a gwyriadau fel y gallwch greu eich siwrne bersonol eich hun.  

Mae'r rhaglen dridiau hon yn rhoi llwyfan i'r cyfoeth o ddiwylliant a threftadaeth sydd i'w gael ar Ffordd yr Arfordir ac o'i chwmpas. Wrth i chi deithio, byddwch yn siŵr o ganfod cestyll canoloesol, trenau bach hanesyddol a safleoedd sanctaidd; yn ogystal â cherddoriaeth, crefftau a chelf gyfoes.

Diwrnod 1

Cychwynnwch eich diwrnod yng Nghaernarfon trwy fynd am daith 25 milltir/40km ar Reilffordd Eryri. Dyma reilffordd treftadaeth hiraf y DU, ac mae'n pwffian yr holl ffordd draw i Borthmadog. Ewch ar gylchdaith neu ewch gam ymhellach trwy gamu ar gymdoges y lein, Rheilffordd glasurol Ffestiniog, sy'n teithio rhwng Porthmadog a Blaenau Ffestiniog.

Ffestiniog and Welsh Highland Railway
Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri


Yn dilyn bod ar y trên, gyrrwch i ganol Penrhyn gwych a gwyllt Llŷn ac i Nant Gwrtheyrn ger Llithfaen, y Ganolfan Iaith a Threftadaeth Genedlaethol. Mae'r cyn-bentref chwarelyddol Fictoraidd hwn, sydd wedi ei leoli yng nghysgod clogwyni serth, yn rhoi cipolwg i ymwelwyr ar dreftadaeth ddiwylliannol dwfn ac unigryw Cymru, yn ogystal ag adrodd hanes gorffennol diwydiannol y Nant.

Awgrym i aros dros nos: Porthmadog neu Harlech.

Diwrnod 2

Yn y bore, ewch i Gastell Harlech. Mae tyrrau'r Safle Treftadaeth y Byd aruthrol hwn yn codi o'r clogwyn creigiog y cafodd ei godi arno, gyda thwyni tonnog yn arwain at y môr ar y naill ochr a chopaon Eryri ar y llall.

Dilynwch y ffordd ar hyd yr arfordir i gyfeiriad y de, ac anelu am Aberystwyth er mwyn ymweld ag Amgueddfa Ceredigion. Wedi'i chartrefu mewn theatr Edwardaidd ger y môr, sydd wedi'i diogelu'n wych, a thrwy gyfrwng casgliad eclectig o dros 60,000 o arteffactau, mae'r amgueddfa yn adrodd hanes Ceredigion o'r cyfnod Neolithig hyd yr ugeinfed ganrif. Ewch yn eich blaen wedyn i Gastell Aberteifi, lleoliad eisteddfod gyntaf Cymru ym 1176. Yn dilyn mynd â'i ben iddo, mae'r castell wedi cael ei achub, ei adfer a'i aileni fel atyniad treftadaeth cyfareddol a lle unigryw i aros. 

Taith Celf a Chrefft Ceredigion
Taith Celf a Chrefft Ceredigion


Wrth i chi deithio trwy Geredigion, gallwch hefyd ddarganfod Taith Celf a Chrefft Ceredigion er mwyn cael golwg ar stiwdios ac orielau artistiaid a chrefftwyr lleol sy'n creu popeth o grochenwaith a phaentiadau i nwyddau gwydr a gemwaith (gweler ceredigionarttrail.org.uk am ragor o fanylion). 

Taith Celf a Chrefft Ceredigion

Awgrym i aros dros nos: Aberteifi.

Diwrnod 3

Oedwch yn nhref glan môr ffasiynol Trefdraeth i chwilota yn Oriel Cydweithfa Trefdraeth, menter gymunedol arloesol sy'n llawn o gelf, tecstilau, dodrefn a cherflunwaith a wnaed yn lleol. Galwch heibio'r Royal Oak yn Abergwaun i dorri syched. Mae gan y dafarn hon gysylltiadau difyr â'r drwg-enwog ac anffodus 'Oresgyniad Diwethaf Prydain' ym 1797. (Os yw eich cynlluniau'n caniatáu, ewch i'r noson werin wythnosol ar nos Fawrth. Mae'n cynnwys cerddoriaeth draddodiadol o Gymru, jigiau a siantis môr Gwyddelig, ac yn ddigwyddiad hwyliog ac anffurfiol i'r perfformwyr a'r gynulleidfa fel ei gilydd.)

Fishguard folk nights every Tuesday at the Royal Oak pub
Nosweithiau gwerin Abergwaun


Dewch â'ch taith ar Ffordd yr Arfordir i ben yn Nhyddewi, dinas leiaf y DU. Mae'r fetropolis fechan gelfyddydol hon yn gartref i Gadeirlan Tyddewi, un o'r lleoliadau sanctaidd pwysicaf yng Nghymru, sydd wedi bod yn gyrchfan i bererinion ledled y byd ers canrifoedd. Gwnewch amser hefyd i weld llyfrgell y gadeirlan (sy'n gartref i gasgliad enfawr o lyfrau sy'n dyddio yn ôl i'r unfed ganrif ar bymtheg), ac adfeilion cyfagos Plas yr Esgob sy'n edrych tuag at y gadeirlan. 

St Davids Bishops Palace looking toward the cathedral
Yr olygfa o Blas Esgob Tyddewi tuag at y gadeirlan


Awgrym i aros dros nos: Tyddewi.