Ffordd yr Arfordir: Golffio Gwych

Gan redeg ar hyd Bae Ceredigion gyfan, o Aberdaron yn y gogledd i Dŷ Ddewi yn y de, mae Ffordd yr Arfordir yn un o dri llwybr teithio cenedlaethol Ffordd Cymru sy'n ymestyn am 180 milltir/290km.  Yn hytrach na chyfres gadarn o gyfarwyddiadau, mae pob 'Ffordd' yn llwybr hyblyg gyda digon o gyfleoedd i grwydro oddi ar y prif lwybr, gan ddilyn llwybrau a gwyriadau fel y gallwch greu eich siwrne bersonol eich hun.  

Yn y rhaglen dridiau hon, byddwn yn tynnu sylw at ambell un o gyrsiau golff gwych Ffordd yr Arfordir. Gyda chymaint i'w gynnig, chewch chi ddim amser am gêm ar bob un, felly dewiswch y clybiau sy'n gweddu i'ch lefel sgil a'ch arddull o chwarae.

Oni nodir yn wahanol, mae'r cyrsiau golff sydd wedi eu cynnwys yn rhai deunaw twll..

Diwrnod 1

Dechreuwch ym Mhorthmadog, cwrs sy'n cynnwys y gorau o ddau fyd - mae'r naw blaen ar rostir bryniog tra bod y naw cefn yn lincs arfordirol clasurol. Ymlaen â chi wedyn i Gwrs Golff Brenhinol Dewi Sant, a saif yng nghysgod castell trawiadol Harlech. Gyda gwyntoedd main o'r môr, twyni uchel a thir garw sy'n disgwyl pob ergyd wael, mae'r cwrs wedi cael enw haeddiannol fel y par 69 mwyaf anodd yn y byd.

Royal St. David's Golf Club, Harlech
Clwb Golff Brenhinol Dewi Sant, Harlech

 

Tua'r de ar hyd yr arfordir, ceir profiad golff lincs clasurol arall yn Aberdyfi. Dyma gwrs sy'n dangos cydweithio ysbrydoledig rhwng ei ddylunwyr a'r Fam Natur. Mae'r cwrs wedi ei wasgu rhwng Aber yr Afon Ddyfi a mynyddoedd Eryri, ac mae'n cynnig profiad lincs yng nghanol yr elfennau sy'n gofyn am fag golff llawn a'r gallu i fyrfyfyrio.

Awgrym i aros dros nos: Aberdyfi.

Diwrnod 2

Dechreuwch eich diwrnod ar gwrs golff Borth ac Ynyslas. Sefydlwyd y clwb ym 1885, ac felly mae'n debyg y gallai alw ei hun yn glwb golff hynaf Cymru. Mae'n cynnig profiad lincs allan ac yn ôl (out and back) diamser, ynghyd â golygfeydd ar draws Bae Ceredigion. Mae Clwb Golff Parc Penrhos, a sefydlwyd ym 1990 yn Llanrystud ger Aberystwyth, yn gymharol newydd ar sîn golff Ceredigion, ond mae ei dirwedd bryniog, ei lesteiriau dŵr (water hazards) a'i nodweddion naturiol yn dod ynghyd i greu argraff sylweddol.   

Ewch yn eich blaen ar hyd yr arfordir i Glwb Golff Aberteifi lle mae lincs a pharcdir yn dod ynghyd ar cwrs arfordirol ysblennydd sydd wedi ei gymharu â'r enwog Pebble Beach yn UDA. Gall y golygfeydd dros y bae gipio eich gwynt, ond gwyliwch am yr eithin trwchus sy'n disgwyl y chwaraewyr hynny sy'n talu gormod o sylw i'r olygfa.

Clwb Golff Aberteifi
Clwb Golff Aberteifi


Awgrym i aros dros nos: Aberteifi neu Drefdraeth.

Diwrnod 3

Dechreuwch wrth y môr ar Draeth Trefdraeth. Sefydlwyd y cwrs fel un naw twll ym 1925, ac fe'i dyluniwyd gan y pensaer cyrsiau chwedlonol, James Braid. Bellach, mae'n gwrs her pencampwriaeth deunaw twll, a'i olygfeydd dros Fae Trefdraeth gyda'r gorau yn y byd. Wedyn, ewch tua'r tir o Abergwaun i Goedwig Priskilly, cwrs parcdir naw twll perffaith (a gwyrdd iawn) sy'n cyfuno golff gyda golygfeydd â lle i aros mewn tŷ gwledig cartrefol.

Newport Sands golf course with epic views across Newport Bay
Cwrs Golff Traeth Trefdraeth gyda'i olygfeydd epig dros Fae Trefdraeth.


Dewch i derfyn eich taith golffio yng Nghlwb Golff Dinas Tyddewi. Dyma gwrs mwyaf gorllewinol Cymru. Mae'n gwrs lincs naw twll, deunaw ti, bychan ond hudolus, sy'n cynnig golygfeydd dros Borth Mawr ac Ynys Ramsey.

at St David’s City Golf Club
Clwb Golff Dinas Tyddewi yn edrych dros traeth Porth Mawr


Awgrym i aros dros nos: Tyddewi.