Ffordd yr Arfordir: Ffordd Antur

Gan redeg ar hyd Bae Ceredigion gyfan, o Aberdaron yn y gogledd i Dŷ Ddewi yn y de, mae Ffordd yr Arfordir yn un o dri llwybr teithio cenedlaethol Ffordd Cymru sy'n ymestyn am 180 milltir/290km.  Yn hytrach na chyfres gadarn o gyfarwyddiadau, mae pob 'Ffordd' yn llwybr hyblyg gyda digon o gyfleoedd i grwydro oddi ar y prif lwybr, gan ddilyn llwybrau a gwyriadau fel y gallwch greu eich siwrne bersonol eich hun.  

Mae'r rhaglen dridiau hon yn amlinellu rhai o'r anturiaethau a'r gweithgareddau sydd i'w cael ar Ffordd yr Arfordir ac o'i chwmpas, gan gynnwys chwaraeon dŵr gwyllt, beicio anhygoel, a phrofiadau tanddaearol unigryw.

Diwrnod 1

Dechreuwch y daith trwy neidio i'r môr am antur dŵr yn Abersoch ar benrhyn hyfryd Llŷn. Mae'n gyrchfan boblogaidd am bob math o chwaraeon dŵr, gan gynnwys syrffio, corff-fyrddio a rhwyf-fyrddio. 

Yn dilyn hynny, mae'n amser mynd o dan y ddaear yn Zip World ym Mlaenau Ffestiniog, lle mae hen chwareli llechi yn gartref i faes chwarae enfawr llawn gwifrau gwib, pontydd rhaff a thrampolinau.  Gallwch hefyd grwydro ogofâu Llechwedd a'r ardal gyfagos ar 'daith pwll dwfn' a thaith chwarel oddi ar y ffordd.  Neu, plymiwch o'r entrychion ar un o lwybrau beicio mynydd creigiog Antur Stiniog.

Zip World Caverns, Blaenau Ffestiniog
Zip World Caverns

 

Awgrym i aros dros nos: Blaenau Ffestiniog neu Ddolgellau.

Diwrnod 2

Gyrrwch trwy Fachynlleth ar yr A487 ac anelu am dref glan môr Aberystwyth. Mwynhewch brofiad beicio rhwydd a chymharol ddi-draffig ar Lwybrau Ystwyth a Chwm Rheidol, neu profwch eich gallu oddi ar y ffordd ar lwybrau graean garw ym Mwlch Nant yr Arian.

Cycling

Daliwch ar yr A487 wrth iddi ddilyn yr arfordir i dref arfordirol brydferth Ceinewydd, lle gallwch blymio i'r don gyda chymorth Canolfan Chwaraeon Dŵr Bae Ceredigion - a mynd i hwylfyrddio, hwylio, rhwyf-fyrddio, sgïo dŵr a thonfyrddio.    Fel arall, gallwch gymryd taith fywyd gwyllt yn un o gychod A Bay to Remember (a leolir yn Aberteifi gyda thri phwynt ymadael lleol gwahanol) a chadw llygad am y dolffiniaid a'r llamhidyddion sy'n chwarae yn nyfroedd clir-fel-grisial y bae.

Hwylio


Awgrym i aros dros nos: Aberteifi.

Diwrnod 3

Ewch ar y ffordd gefn o Aberteifi trwy Landudoch i Drewyddel a Bae Ceibwr. Mae'r bae wedi ei guddio ymysg y clogwyni uchel, ac mae'n lle rhagorol ar gyfer caiacio môr heibio creigiau'n llawn gweadau daearegol anarferol ac ogof fôr drawiadol Pwll-y-Wrach.

Ceibwr Bay
Bae Ceibwr


Ewch yn ôl at yr A487 i gyfeiriad Abergwaun, ac ymlaen i Lwybr Cwm Gwaun.   Mae'r gylchdaith hon o 6 milltir / 9.7km, sydd heb fod yn bell o'r B4313 ger Llanychaer rhwng Abergwaun ac Arberth (manylion y lleoliad yma), yn dilyn yr afon trwy ddyffryn coediog a ffurfiwyd ar ddiwedd yr Oes Iâ diwethaf, ac yn ffordd hawdd o ymgolli yng nghefn gwlad gwyrdd a chuddiedig Sir Benfro.

The Gwaun Valley Cycle Trail
Llwybr beicio Cwm Gwaun

 

Dewch i derfyn eich taith yn Nhraeth Porth Mawr, bae o dywod meddal yng nghysgod Penmaen Dewi creigiog sy'n un o draethau gorau'r DU ar gyfer syrffio.

Surf School at Whitesands Bay
Ysgol Syrffio yn Nhraeth Porth Mawr

 

Awgrym i aros dros nos: Tŷ Ddewi.