Atyniadau
Amgueddfa Lechi Cymru
Atyniadau
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.
Clwb Golff Fairbourne
Gweithgaredd
Mae'r cwrs golff 1000 llath par 3 yma yn un gwych ar gyfer dechreuwyr, ac ar agor i'r cyhoedd. Gellir llogi clybiau a pheli. Ar ôl cwblhau eich rownd, ymlaciwch ac edmygwch cadwyn mynyddoedd Cader Idris a'r bryniau uwchben Abermaw.
Fairbourne Railway
Atyniadau
Dyma’r rheilffordd lein gul leiaf yng Nghymru, gyda thrac sy’n mesur dim ond 12¼ modfedd.
Gwinllan | Perllan Pant Du
Atyniadau
Mae fferm Pant Du ym Mhenygroes wedi ei lleoli ar lethrau godidog dyffryn rhewlifol Dyffryn Nantlle, wrth droed yr Wyddfa. Nol yn 2003 prynodd Richard a Iola Huws fferm Pant Du, nepell o’u cartref ym Mhenygroes.