Gwinllan | Perllan Pant Du
Mae fferm Pant Du ym Mhenygroes wedi ei lleoli ar lethrau godidog dyffryn rhewlifol Dyffryn Nantlle, wrth droed yr Wyddfa. Nol yn 2003 prynodd Richard a Iola Huws fferm Pant Du, nepell o’u cartref ym Mhenygroes. Yn 2007 bu iddynt sefydlu gwinllan a pherllan ar y tir, ac yn 2010 cafwyd y botelaid gyntaf o win Pant Du. Symudodd y teulu yno i fyw a bellach mae Pant Du yn fusnes llewyrchus, yn gwerthu Gwin, Seidr a Sudd Afal, ac erbyn heddiw Dŵr Ffynnon hefyd.
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Croesewir grwpiau
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
- Pwynt gwefru cerbydau trydan