Atyniadau
Bach Ventures
Darparwr Gweithgareddau
Ydych chi’n chwilio am sialens newydd? Os felly, ymunwch â ni am antur. Cewch ddewis o Sgramblo Ceunentydd, Arforgampau, Caiacio a Chaiacio Môr, Dringo, Canwio neu ddiwrnod o Fynydda.
Castell Penrhyn
Atyniadau
Mae'r castell anferthol neo-Normanaidd yma, o'r 19ed ganrif, wedi ei leoli rhwng Eryri a'r Afon Menai.
Gardd Fotaneg Treborth
Atyniadau
Yn berchen gan Brifysgol Bangor mae'r gerddi yn cael eu defnyddio fel adnodd ar gyfer addysgu, ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd a mwynhad.
Gerddi Plas Brondanw
Atyniadau
Rhoddwyd Plas Brondanw i Syr Clough Williams-Ellis gan ei dad ym 1902. Y gerddi ym Mhlas Brondanw yw’r enghraifft orau o ddawn Syr Clough i dirlunio’n greadigol.
North Wales Rock Climbing
Darparwr Gweithgareddau
Mae North Wales Rock Climbing yn cynnig amryw o weithgareddau mynydda gan gynnwys dringo tywys, sgramblo a cherdded, i sgiliau mordwyo a rheolaeth mynydd.
Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Atyniadau
Mae'r oriel gelf unigryw yma wedi ei lleoli yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn darluniadwy. Mae'r Plasty Fictorianaidd Gothig wedi ei restru'n radd II yma yn lle perffaith i weld peth o gelf cyfoes gorau Cymru.