Gardd Fotaneg Treborth

Treborth, Bangor, LL57 2RQ

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01248 353398

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page treborth@bangor.ac.uk

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page http://treborth.bangor.ac.uk/

Yn berchen gan Brifysgol Bangor mae'r gerddi yn cael eu defnyddio fel adnodd ar gyfer addysgu, ymchwil ac ymgysylltu â'r cyhoedd a mwynhad. Mae Gardd Fotaneg Treborth yn cynnwys borderi planhigion, glaswelltiroedd naturiol, pyllau, arboretum a berllan, Gardd Meddyginiaethol Tsieineaidd, coetir hynafol a chynefin traethlin creigiog. Mae chwech o dai gwydr yn darparu amgylcheddau arbenigol ar gyfer casgliadau planhigion trofannol, tymherus, tegeirian a charregifor. Mae gan yr ardd allanol fynediad am ddim i'r cyhoedd bob amser ac mae'r tai gwydr ar agor ar adegau penodol pan fo staff neu wirfoddolwyr yn bresennol. Mynediad i gadeiriau olwyn i rai tai gwydr a rhan o'r ardd. Mae Llwybr Arfordir Cymru yn rhedeg drwy'r coetir ag wyneb arno, ond  dros y glaswellt mae mynediad i'r rhan fwyaf o'r borderi. Croesewir cŵn ar dennyn.

Mwynderau

  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
  • Derbynnir Cŵn
  • Parcio
  • Llwybr beicio Sustrans gerllaw
  • Croesewir teuluoedd