Castell Penrhyn
Mae'r castell anferthol neo-Normanaidd yma, o'r 19ed ganrif, wedi ei leoli rhwng Eryri a'r Afon Menai. Mae'n llawn o eitemau diddorol, fel gwely llechen yn pwyso tunnell gafodd ei wneud ar gyfer y Frenhines Victoria, cerfiadau cymhleth, gwaith plastr a dodrefn ffug-Normanaidd. Hefyd, mae yma gasgliad gwych o beintiadau. Mae'r ceginau sydd wedi eu hadfer yn werth eu gweld, ac mae yna amgueddfa rheilffordd a modelau rheilffordd hynod o ddiddorol yn y bloc stablau. Mae'r 24.3 hectar o dir yn cynnwys parcdir, casgliad o lwyni a choed ecsotig yn ogystal â gardd Fictorianaidd â wal o'i chwmpas.
Gwobrau
Mwynderau
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Parcio
- Cylchdaith Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Parcio (Bws)
- Llwybr Arfordir Cymru gerllaw
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Pwynt gwefru cerbydau trydan