Ffordd y Gogledd: Ar Drywydd Bwyd a Diod

Gan ddechrau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a rhedeg i'r gorllewin am 75 milltir/120km i ben draw Môn, Ffordd y Gogledd yw un o dair Ffordd Cymru sydd wedi'u creu i arwain ac ysbrydoli ymwelwyr.  Mae pob 'Ffordd' wedi'u dylunio fel profiad llyfn, nid llwybr sy'n rhaid ei ddilyn, gyda digon o wyriadau oddi ar y prif lwybr fel y gallwch grwydro ymhellach ac yn ddyfnach.

Yn y rhaglen bedwar diwrnod hon, byddwch yn cael blas ar beth o'r bwyd a'r diod gorau ar Ffordd y Gogledd ac o'i chwmpas, o bysgod ffres o'r môr a chig eidion a chig oen Cymreig sydd gyda'r gorau yn y byd i winoedd, cyrfau a gwirodydd sy'n ffrwydrad o flas lleol.

Diwrnod 1

Bydd eich siwrne'n dechrau yn Siop Fferm Ystâd Penarlâg. Chwiliwch y silffoedd am gynnyrch Cymreig anhygoel, cymerwch frechdan o fara wedi'i bobi'n ffres, a chasglwch eich ffrwythau a'ch llysiau eich hun yn ystod misoedd yr haf. Unwaith y byddwch chi'n teimlo'n sychedig, ewch draw i Fragdy Magic Dragon ym Mharc Hamdden y Plasau ger Wrecsam am frag sydd wedi ennill gwobrau cwrw annibynnol.  

Wedi hynny, dilynwch yr A539/A5 trwy Ddyffryn Llangollen i Ystâd Rhug yng Nghorwen, lle mae modd i chi brynu popeth o gig oen Cymreig brau i gaws cyfandirol llawn blas yn y siop fferm neu gadewch i rywun arall wneud y gwaith coginio drosoch chi gyda bwyd wedi'i baratoi'n ffres o'r caffi, bwyd i fynd neu 'drive thru'.

Siop Fferm Ystâd Rhug
Siop Fferm Ystâd Rhug


Awgrym i aros dros nos: Corwen.

Diwrnod 2

Gyrrwch ar hyd yr A5/A470 heibio bryniau, gweunydd a dyffrynnoedd i Fae Colwyn, lle mae bwyty Bryn Williams ym Mhorth Eirias dafliad carreg o'r môr ar ymyl adfywiedig y bae.  Cafodd ei enwi yn Fwyty'r Flwyddyn Cymru yn 2019 gan yr AA, ac mae ei fwydlen, sy'n cynnwys bwyd môr lleol (rhowch gynnig ar y cregyn gleision), cig ffres o'r fferm a chynnyrch tymhorol, yn cynnwys rhywbeth fydd at ddant pawb.

Bryn Williams, Porth Eirias
Bryn Williams, Porth Eirias


Ewch yn eich blaenau wedyn am daith o amgylch Gwinllan Conwy, lle cewch ddysgu sut y caiff eu gwinoedd gwobrwyedig eu creu (yn ogystal â'r cyfle i flasu ambell un).  Ewch yn eich blaen at Siocledyddion Artisan Baravelli's yng Nghonwy. Dyma'r unig fan yng Nghymru lle caiff siocled ei greu 'o'r ffeuen goco i'r bar', ac mae'n llawn dop o ddanteithion blasus wedi eu crefftio'n gywrain.

Gwinllan Conwy
Gwinllan Conwy

 

Awgrym i aros dros nos: Conwy neu Landudno.

Diwrnod 3

Ewch ymlaen ar eich taith i Abergwyngregyn ger Bangor i ymweld â Distyllfa Aber Falls. Ewch ar daith o amgylch y ddistyllfa arloesol hon, un o bedair yn unig a leolir yng Nghymru, sydd hefyd yn cynhyrchu jin a gwirodydd â llaw. Ewch yn eich blaen i Bangor a Chaffi Blue Sky. Mae bwydlen dymhorol ac amrywiol y bwyty hwn yn seiliedig, lle bynnag y bo modd, ar gyflenwyr lleol a chynnyrch organig. Dim ond hop, cam a naid o'r caffi yw'r daith i Winllan a Pherllan Pant Du ger Penygroes, sy'n cynhyrchu seidr a sudd afal blasus yn ogystal â gwin coch, pefriog a rosé. 

Aber Falls Rhubarb and Ginger Gin
Distyllfa Aber Falls


Awgrym i aros dros nos: Beddgelert.

Diwrnod 4

Gan groesi Pont Britannia i Ynys Môn, ewch i Frynsiencyn am daith o amgylch Tŷ Halen a Chanolfan Ymwelwyr Halen Môn. O'i darddiad syml ar lannau'r Fenai, mae'r halen môr gwobrwyedig hwn bellach i'w weld ar fyrddau rhai o fwytai gorau'r byd. 

Yn Llanddeusant, cewch hyd i Felin Llynon. Hon yw'r unig felin wynt weithredol yng Nghymru, a dyma'r lle i fynd am rai o gacennau gorau'r wlad, diolch i'r pobydd crwst o Fôn, Richard Holt.  I orffen eich taith, ewch yn eich blaen i Fae Cemaes, lle mae Bwyty Bay View yng Ngwesty'r Gadlys yn gweini cynnyrch lleol megis cregyn gleision o'r Fenai, a hynny mewn ystafell fwyta ffasiynol gyda golygfeydd gwych dros y môr. 

Awgrym i aros dros nos: Bae Cemaes.