Ffordd y Gogledd: Mae'n Antur

Gan ddechrau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a rhedeg i'r gorllewin am 75 milltir/120km i ben draw Môn, Ffordd y Gogledd yw un o dair Ffordd Cymru sydd wedi'u creu i arwain ac ysbrydoli ymwelwyr.  Mae pob 'Ffordd' wedi'u dylunio fel profiad llyfn, nid llwybr sy'n rhaid ei ddilyn, gyda digon o wyriadau oddi ar y prif lwybr fel y gallwch grwydro ymhellach ac yn ddyfnach.

Yma, rydym wedi creu amserlen bedwar diwrnod ar y thema 'Antur', sydd yn mynd â chi i feicio mynydd, ar wifrau gwib, i farchogaeth ac i syrffio, gydag atyniadau treftadaeth cyffrous wedi eu cynnwys i ychwanegu at y profiad.

Diwrnod 1

Dechreuwch eich taith ar nodyn uchel ar Draphont Pontcysyllte ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr, a adeiladwyd ym 1805 i gludo Camlas Llangollen ar uchder o 128 troedfedd / 39m dros Afon Ddyfrdwy. Mae'n gamp bensaernïol syfrdanol ac yn un o ryfeddodau'r byd, heb os, a adlewyrchir yn ei statws Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Pontcysyllte Aqueduct
Pontcysyllte Aqueduct


Gyrrwch trwy Fwlch yr Oernant ar yr A542 i Landegla. Fydd beicwyr mynydd ddim am fethu One Planet Adventure, sy'n gwneud y mwyaf o'r llwybrau yng Nghoed Llandegla. Os yw'n well gennych fynd ar gefn ceffyl nag ar gefn beic, ewch i Ganolfan Farchogaeth Bridlewood ger Prestatyn, lle gallwch farchogaeth ar fryniau gleision neu ar draeth tywodlyd Talacre.  Os ydych yn fwy bodlon eich byd ar y dŵr, ewch yn eich blaen i'r Rhyl i gael trochfa ym mharc dŵr SC2, sy'n llawn llithrennau ac ardaloedd chwarae.

Tag Active, SC2
Tag Active, SC2, Rhyl


Awgrym i aros dros nos: Y Rhyl neu Abergele.

Diwrnod 2

Dechreuwch eich diwrnod gydag antur gydag anifeiliaid yn Sw Mynydd Cymru, Bae Colwyn, lle cewch weld anifeiliaid prin sydd dan fygythiad, megis pandaod coch, llewpardiaid yr eira a theigrod Swmatraidd.   Archebwch brofiad 'cwrdd ag anifail' i gael golwg agosach ar eich hoff anifail yn y sŵ. Yn dilyn hynny, mae'n amser mynd o lawr allt yn Llandudno Snowsports Centre, a rhoi cynnig ar sgïo, eirafyrddio, tobogan a 'sno-tubes'.

Adventure Park Snowdonia
Adventure Park Snowdonia


Gyrrwch oddi wrth y môr ar yr A470 ar hyd yr hyfryd Ddyffryn Conwy, gan ddilyn yr arwyddion i Adventure Parc Snowdonia, lagŵn syrffio mewndirol cyntaf y byd, sy'n creu tonnau perffaith bob eiliad yn Adventure Parc Snowdonia, Dolgarrog. Os nad ydych eisiau cael eich traed yn wlyb, gallwch roi cynnig ar fynd i ogofâu, dringo, cyrsiau antur a gwifrau gwib.

Betws-y-Coed
Betws-y-Coed 


Awgrym i aros dros nos: Betws-y-Coed.

Diwrnod 3

Zip World Chwarel y Penrhyn yw brenin y gwifrau gwib. Yma y ganed enw da Eryri fel prifddinas y gwifrau gwib. Dyma wifren wib gyflymaf y byd, lle byddwch yn cyrraedd cyflymder brawychus o 100mya / 160kya wrth i chi hedfan 1,640 troedfedd / 500m dros lyn y chwarel. 

Mae pethau ychydig yn llai arswydus ym Mharc Teuluol Gelli Gyffwrdd ger Caernarfon.  Mae enw Saesneg y parc, GreenWood, yn briodol iawn. Mae'r atyniad gwobrwyedig hwn yn cymryd ei enw da am fod yn wyrdd o ddifri. Reidiwch ar y rollercoaster sy'n cael ei bweru gan bobl, neu ar reid cyntaf y DU i gael ei bweru gan ynni solar.

GreenWood Family Park
Solar Splash, GreenWood Family Park


Yna ewch i  Lanberis a Llyn Padarn un o lynnoedd naturiol mwyaf Cymru, lle mae'r sîn chwaraeon dŵr llewyrchus yn cynnwys rhwyf-fyrddio (y lle gorau yn y DU i fynd i rwyf-fyrddio, yn ôl papur newydd yr Independent).

Awgrym i aros dros nos: Llanberis.

Diwrnod 4

Croeswch bont ffordd yr A5 dros y Fenai i Ynys Môn. Byddwch yn dod i adnabod dyfroedd y Fenai yn fuan iawn. Ym Mhorth Daniel hardd, yr ochr draw i'r bont, mae RibRide, cwmni sy'n arbenigo mewn teithiau cychod ychydig yn wahanol, yn cynnwys y daith 'Velocity' sy'n gyflym iawn ac yn llawn adrenalin.   

Mae tref gyfagos Biwmares yn gartref i'r hyn a ystyrir fel y godidocaf o'r holl gestyll canoloesol a godwyd gan Frenin Lloegr, Edward y Cyntaf, yn ystod ei ymgyrch yng Nghymru. Gyda'i ffos a'i amddiffynfeydd consentrig ar ffurf waliau-o-fewn-waliau, byddai Biwmares - sydd bellach yn Safle Treftadaeth y Byd - wedi cynnig her aruthrol i unrhyw ymosodwr. 

Dilynwch yr A5 ar draws Ynys Môn i Roscolyn i ddod â'ch anturiaethau ar Ffordd y Gogledd i ben trwy gaiacio gyda B-Active@Rhoscolyn. B-Active@Rhoscolyn. Gwyliwch allan hefyd am chwaraeon modur ar Drac Môn ger Aberffraw, un o'r traciau mwyaf heriol gyda'r golygfeydd mwyaf godidog ym Mhrydain. 

Awgrym i aros dros nos: Bae Trearddur.