Ffordd y Gogledd: Taith Ddiwylliannol

Gan ddechrau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a rhedeg i'r gorllewin am 75 milltir/120km i ben draw Môn, Ffordd y Gogledd yw un o dair Ffordd Cymru sydd wedi'u creu i arwain ac ysbrydoli ymwelwyr.  Mae pob 'Ffordd' wedi'u dylunio fel profiad llyfn, nid llwybr sy'n rhaid ei ddilyn, gyda digon o wyriadau oddi ar y prif lwybr fel y gallwch grwydro ymhellach ac yn ddyfnach.

Bydd y rhaglen hon o bedwar diwrnod yn eich cyflwyno i'r cyfoeth o dreftadaeth a bywyd diwylliannol sydd gan Ogledd Cymru i'w gynnig. Ar hyd y ffordd, byddwch yn profi popeth o gelf gyfoes a henebion hynafol i gestyll trawiadol a chyfleoedd i fynd dan groen y gorffennol diwydiannol.

Diwrnod 1

Rydym yn ceisio gwasgu cymaint â phosib i'r daith hon, felly'r noson cyn i chi gychwyn, ewch i wylio ffilm neu sioe yn Theatr Clwyd, nid nepell o'r ffin yn yr Wyddgrug.  Mae Diwrnod 1 yn cychwyn o ddifri gydag ymweliad â Thŷ Pawb yn Wrecsam, gofod cymunedol unigryw sy'n cyfuno arddangosfeydd celf, perfformiadau theatrig a stondinau marchnad lleol (ac os cewch chi amser, galwch heibio i Eglwys gyfagos Plwyf San Silyn, eglwys ganoloesol fwyaf Cymru). 

Ymlaen â chi wedyn i Ganolfan Grefft Rhuthun, y Ganolfan Genedlaethol i'r Celfyddydau Cymhwysol, i gasglu cofroddion unigryw, cyn gyrru ar hyd y ffordd odidog trwy Fwlch y Bedol ac ymlaen i Langollen am daith drên ar hyd Ddyffryn Dyfrdwy am Reilffordd Treftadaeth hanesyddol Llangollen

Llangollen Railway
Rheilffordd Llangollen


Awgrym i aros dros nos: Llangollen.

Diwrnod 2

Dilynwch yr A5 i Fetws-y-Coed, ac yna'r A470 trwy lesni Dyffryn Conwy i dreulio'r dydd yn darganfod tref ganoloesol Conwy. Mae llawer i'w weld yma. Castell urddasol Conwy yw un o geiri gwychaf Ewrop, ac mae'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO (dringwch i ben y muriau uchel, cyn cerdded ar hyd waliau'r dref - sydd mewn cyflwr gwych - am olygfa i gipio'ch gwynt).

Castell Conwy © Hawlfraint y Goron (2021) Croeso Cymru
Castell Conwy © Hawlfraint y Goron (2021) Croeso Cymru


Mae Canolfan Ddiwylliant newydd Conwy yn datgelu mwy am hanes grymus y dref, tra bod cyfle i gael cipolwg ar gryfderau creadigol Conwy trwy fynd i weld rhaglen newidiol o arddangosfeydd celf yn yr Academi Frenhinol Gymreig.

Yr Academi Frenhinol Gymreig, Conwy
Yr Academi Frenhinol Gymreig, Conwy 


Awgrym i aros dros nos: Conwy.

Diwrnod 3

Gyrrwch ar hyd yr A55 i Gastell Penrhyn ger Bangor. Dyma blasdy crand o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a adeiladwyd ar sail y cyfoeth aruthrol a gynhyrchwyd gan ddiwydiant llechi Gogledd Cymru.   Ewch draw i Ynys Môn wedyn trwy groesi Pont Grog hanesyddol Menai (a ddyluniwyd gan y peiriannydd enwog Thomas Telford, ac a agorodd ym 1826). 

Ar yr ynys, ewch i ymweld â Bryn Celli Ddu ger Brynsiencyn, un o'r mwyaf trawiadol ymhlith nifer o henebion Neolithig ar Ynys Môn, cyn troi am y Deyrnas Gopr yn Amlwch i ddysgu mwy am y metel sydd wedi cael ei fwyngloddio yn yr ardal ers cyn yr Oes Efydd.    Yn olaf, galwch heibio i Oriel Ynys Môn yn Llangefni, lle mae cyfle i chi weld rhaglen newidiol o waith gan artistiaid Cymreig, yn ogystal ag arddangosfa estynedig barhaol o baentiadau a darluniau gan un o gewri'r ynys, Syr Kyffin Williams. 

Awgrym i aros dros nos: Biwmares.

Diwrnod 4

Ewch yn ôl i'r tir mawr dros bont Britannia (cymydog ifanc Pont Menai) a throi am Gaernarfon. Mae'r dref yn adnabyddus am ei chastell canoloesol anferth (Safle Treftadaeth y Byd arall), ond mae'r strydoedd culion atmosfferig, waliau'r dref, datblygiadau modern ar y cei a'r sîn fwyd gyfoes werth yr ymweliad ynddynt eu hunain.

Caernarfon Castle
Castell Caernarfon

I orffen eich taith, dilynwch yr A4086 i Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis, sydd wedi ei hymgysegru i ddiwydiant a ailsiapiodd y rhan hon o Ogledd Cymru yn gyfan gwbl. Mae'n brofiad dilys sy'n hoelio'r sylw, a hynny am y rheswm mai'r hyn ydyw'r 'amgueddfa', mewn gwirionedd, yw'r hen weithfeydd llechi wedi eu gadael yn union fel pe bai'r gweithwyr newydd adael eu hoffer a 'chlocio allan' am y tro olaf.

Awgrym i aros dros nos: Caernarfon.