Ffordd y Gogledd: Cam Wrth Gam

Gan ddechrau ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a rhedeg i'r gorllewin am 75 milltir/120km i ben draw Môn, Ffordd y Gogledd yw un o dair Ffordd Cymru sydd wedi'u creu i arwain ac ysbrydoli ymwelwyr.  Mae pob 'Ffordd' wedi'u dylunio fel profiad llyfn, nid llwybr sy'n rhaid ei ddilyn, gyda digon o wyriadau oddi ar y prif lwybr fel y gallwch grwydro ymhellach ac yn ddyfnach.

Boed yn heiciwr heini neu'n rhodiwr hamddenol, mae'r rhaglen bedwar diwrnod hon yn cyflwyno'r llefydd gorau i fynd i gerdded ar Ffordd y Gogledd ac o'i chwmpas. Ewch am dro trwy fylchau mynyddig dramatig, parciau gwledig, fforestydd a gwarchodfeydd natur.

Diwrnod 1

Dechreuwch eich taith trwy fynd am dro o amgylch Parc Treftadaeth Dyffryn Maes Glas ger Treffynnon, lle mae rhwydwaith o lwybrau yn datgelu nentydd, llynnoedd a choetiroedd brith, ynghyd â chofebau hanesyddol a maes chwarae awyr agored enfawr i ymwelwyr iau.  Ymlaen â chi wedyn i Barc Gwledig Loggerheads, i gymryd tro ar hyd y llwybrau wedi'u harwyddo sy'n datgelu tirwedd o ddyffrynnoedd coediog, creigleoedd garw, a chlogwyni blaenllym.

Loggerheads Country Park
Parc Gwledig Loggerheads


Mae Coed Plas Power a Choed Melin y Nant ger Wrecsam yn cynnwys 104 erw / 42 hectar o goetir, cors a glaswelltir hynafol, sy'n gartref i ystod liwgar o anifeiliaid a phlanhigion gwyllt yn cynnwys glas y dorlan, boneddiges y wig (orange tip butterfly) a gwyddfid peraroglus. Os yw amser yn caniatáu, galwch heibio i Erddig, sydd yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'n esiampl o blasty sy'n dangos y gwahaniad rhwng y teulu ar un llawr a'r gweision ar lawr arall, ac yn cynnwys gerddi ysblennydd a gŵyl afalau bob hydref. 

Erddig
Erddig


Mae Coed Plas Power a Choed Melin y Nant ger Wrecsam yn cynnwys 104 erw / 42 hectar o goetir, cors a glaswelltir hynafol, sy'n gartref i ystod liwgar o anifeiliaid a phlanhigion gwyllt yn cynnwys glas y dorlan, boneddiges y wig (orange tip butterfly) a gwyddfid peraroglus. Os yw amser yn caniatáu, dilynwch arwyddion Llwybr Clywedog i lawr yr afon i Erddig, sydd yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'n esiampl o blasty sy'n dangos y gwahaniad rhwng y teulu ar un llawr a'r gweision ar lawr arall, ac yn cynnwys gerddi ysblennydd a gŵyl afalau bob hydref.

Awgrym i aros dros nos: Wrecsam.

Diwrnod 2

Dilynwch yr A5 i Fetws-y-Coed, cyn cymryd y B5106 trwy Ddyffryn Conwy i Drefriw a dringo'r ffordd gefn at unigedd Llyn Crafnant

Llyn Crafnant
Llyn Crafnant


Cewch dri llwybr wedi eu harwyddo ar lannau'r llyn uchel hwn, yn amrywio o dro byr a hygyrch trwy goetiroedd i drywydd hirach sy'n dringo i gynnig golygfeydd pell dros Eryri, ei mynyddoedd a'i choedwigoedd.

Mynydd Conwy 
Mynydd Conwy


Dychwelwch at y B5106 a throi am Gonwy i ddarganfod y rhwydwaith o lwybrau sy'n igam-ogamu ar hyd gopa Mynydd Conwy, gan chwilio am olion bryngeiri o Oes yr Haearn wrth i chi fynd. Ewch yn eich blaen i Landudno i gerdded i gopa'r Gogarth, mynydd bychan a garw sy'n ferw o fywyd gwyllt, ac sy'n dominyddu'r wybren uwchlaw'r gyrchfan glan môr ddeniadol hon.

Gogarth
Gogarth

 

Awgrym i aros dros nos: Llandudno.

Diwrnod 3

Gyrrwch ar hyd yr arfordir i Abergwyngregyn i fynd ar daith gerdded gylchol Rhaeadr Fawr, llwybr 4.5 milltir / 7.5km i'r teulu cyfan trwy ddyffryn hardd at y rhaeadr trawiadol.

Aber Falls
Aber Falls


Croesi'r Fenai i Langefni sydd nesaf, gydag ymweliad â Gwarchodfa Natur Nant y Pandy. Dyma ddyffryn coediog serth sy'n gartref i was y neidr symudliw, glas y dorlan asur, a'r wiwer goch chwareus. Rhowch gynnig ar y ras wythnosol yn y parc, sy'n her hyd yn oed i'r rhedwyr mwyaf brwd. Parc Gwledig y Morglawdd ar yr arfordir gogledd-orllewinol yw eich cyrchfan olaf ar Ynys Môn. Hen chwarel yw'r parc, sy'n cynnwys llwybrau cerdded heibio i arfordir creigiog, llynnoedd, clogwyni a choetiroedd - a hyn oll dafliad carreg yn unig o borthladd prysur Caergybi. 

Awgrym i aros dros nos: Caergybi neu Fae Trearddur.

Diwrnod 4

Ewch yn ôl am y tir mawr a gyrrwch i Lanberis trwy Gaernarfon. Oddi yma, dim ond un ffordd sydd i chi fynd, sef i Gopa'r Wyddfa ar Lwybr Llanberis. Dyma'r llwybr hiraf a'r mwyaf graddol o'r chwe llwybr i'r copa (mae'n 9 milltir / 14.5km i gerdded yno ac yn ôl). 

Os yw hynny'n codi awydd am fwy, gyrrwch trwy Fwlch Llanberis (lle bu'r tîm cyntaf i goncro Mynydd Everest yn ymarfer) i gerdded cylchdaith Aberglaslyn, Llyn Dinas a Chwm Bychan, gan gychwyn o Nantmor ger Beddgelert.   Byddwch yn mynd heibio i rai o olygfeydd hyfrytaf Eryri, gan ymgolli yn harddwch Bwlch Aberglaslyn, pentref Beddgelert a dyfroedd tawel Llyn Dinas.

Afon Glaslyn, Aberglaslyn Pass
Afon Glaslyn


Suggested overnight: Beddgelert neu Borthmadog.