Royal Oak Hotel
- 1 Stars
- 2 Stars
- 3 Stars
Mae’r porth i Eryri yn agos i’r gwesty hwn ac arferai’r gwesty fod yn dafarn i’r goets fawr yn oes Fictoria. Lleolir y gwesty wrth droed bryncyn coediog yng nghanol y pentref prydferth. Dyluniwyd yr ystafelloedd i ymgorffori moethusrwydd cyfoes gyda’r teimlad hanesyddol ac o’r dreftadaeth yn y gwesty gan ddefnyddio defnyddiau cyfoethog, celfyddyd leol a dodrefn chwaethus. Ystafelloedd moethus iawn yn cynnwys gwelyau ar ffurf sled neu welyau pedwar postyn neu ystafelloedd ymolchi gyda jacŵsi. Aelodaeth di-dâl i westeion o gyfleuster Iechyd a Harddwch Stations sydd wedi’i leoli gerllaw ac sy’n cynnig pwll nofio, campfa, sawna, ystafelloedd stêm ac ystafelloedd triniaethau. Mae cyfleuster Wi-Fi i’w gael ym mhob rhan o’r gwesty ac mae teledu sgrin fflat ym mhob ystafell. Mae’r Llugwy River Restaurant, sydd wedi ennill gwobrau, yn cynnig bwyd Cymreig modern sy’n defnyddio cynnyrch lleol tymhorol. Fel arall cewch fwyta yn ein Bar Gril cyfoes sy’n fwy hamddenol ac yn cynnig y cynnyrch Cymreig gorau neu'r Stables Bar sydd ag awyrgylch arbennig. Cynhelir nosweithiau cerddorol yma ac mae digonedd o gwrw casgen ar gael a chyfle i fwyta y tu allan. Mae’r gwesty yn lle perffaith i fynd i weld rhyfeddodau Eryri ... nid oes angen i chwi fynd ymhellach ... mae popeth rydych eisiau i’w gael yma!
Mwynderau
- Gwasanaeth gwarchod/offer gwrando plant
- Caffi/Bwyty ar y safle
- Croeso i bartion bws
- Cot ar gael
- Derbynnir cardiau credyd
- Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
- Cadair uchel ar gael
- Mynediad i’r rhyngrwyd
- Trwyddedig/Trwydded Fwrdd/Bar neu Glwb Trwyddedig
- Parcio
- Yn agos i gludiant cyhoeddus
- Darperir ar gyfer deiet arbennig
- Te/Coffi
- Ffôn yn yr ystafell/uned
- Dim ysmygu o gwbl
- Teledu yn yr ystafell/uned
- Telerau arbennig i fwrw’r Sul, ganol wythnos neu wyliau byrion ar gael
- Siaradir Cymraeg
- WiFi ar gael
- Pwynt gwefru cerbydau trydan