Clwb Golff Betws-y-Coed
Sefydlwyd Clwb Golff Betws-y-Coed ym 1977, ac yn y 40 mlynedd dilynol mae wedi datblygu enw da yn seiliedig ar y croeso cynnes y byddwch yn ei gael wrth ymweld â'r clwb. Efallai bod y cwrs naw twll yn y lleoliad mwyaf delfrydol o unrhyw un y gallech ddod o hyd iddo wrth chwarae golff yng Ngogledd Cymru. Mae pentref Betws-y-Coed, a elwir “Y Porth i Eryri”, yn croesawu ymwelwyr di-ri bob blwyddyn, ac mae croeso i aelodau ac ymwelwyr, fel ei gilydd, yn y clwb golff hwn.