Castell Gwydir

Llanrwst, Conwy, LL26 0PN

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01492 641687

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page info@gwydircastle.co.uk

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page http://www.gwydircastle.co.uk/

Wedi ei leoli yn harddwch Dyffryn Conwy dafliad carreg o Lanrwst, mae Castell Gwydir yn enghraifft ragorol o dŷ cowrt Tuduraidd gyda deg erw o erddi cyfnod rhestredig Gradd 1 hardd. Codwyd rhan hynaf yr adeilad, Rhes y Neuadd, gan y teulu Coetmore yn yr 14eg Ganrif. Arweiniodd y teulu Coetmore saethwyr bwâu hirion mewn brwydrau pwysig gan gynnwys Agincourt a Brwydr Poitiers. Oddeutu 1500, cafodd Gwydir ei brynu gan Meredith ap Ieuan ap Roberts, sylfaenydd llinach rymus y teulu Wynn, a ail-gododd Gastell Gwydir fel tŷ cowrt Tuduraidd yn ymgorffori elfennau pensaernïol gothig wedi eu hail-ddefnyddio o Abaty Maenan gerllaw. Daeth teulu Wynn Gwydir, a oedd yn ddisgynyddion i Dywysogion gwreiddiol Gwynedd, yn deulu hynod ddylanwadol yn ddiwylliannol ac yn wleidyddol drwy gydol cyfnodau’r Tuduriaid a’r Stiwardiaid. Adeiladodd y teulu eu man addoli personol yng Nghapel Gwydir Uchaf gerllaw yn o gystal ag adeiladu Capel Sant Crwst yn Llanrwst a thŷ tref Elisabethaidd bendigedig Plas Mawr yn nhref Conwy. Trosglwyddwyd Gwydir drwy briodas i'r teulu Willoughby de Eresby ddiwedd yr 17eg Ganrif ac yna ym 1895 i Charles Wynn Carrington, Marcwis Swydd Lincoln, a’i gwerthodd ynghyd â’i gynnwys ym 1921. Yn nodedig, cafodd yr ystafell fwyta wreiddiol o’r 1640au ei chaffael gan William Randolph Hearst a gafodd ei anfarwoli yn y ffilm Hollywood Citizen Kane. Cafodd yr ystafell gyfan ei hadfer o Amgueddfa Fetropolitanaidd Efrog Newydd ym 1996 gan y perchnogion presennol Judy Corbett a Peter Welford. Mae Judy a Peter, a brynodd y castell ym 1994, wedi adfer yr eiddo o adfeilion drwy lafur cariad. Mae Castell Gwydir sy'n enwog am ei baenau, ei erddi a’i ddodrefn atmosfferig (a'r ysbrydion sy'n byw yno), yn un o’r mannau mwyaf hudol i ymweld ag o yng Nghymru. Mwynhewch daith hamddenol drwy erddi cain ac ymchwiliwch i ddilysrwydd ac awyrgylch un o adeiladau adferedig gorau Cymru.