Llefydd i fwyta
Y Caffi Crefft - Yr Hen Siop
Mae Yr Hen Siop yn gaffi cyfeillgar sy'n gweini diodydd poeth ac oer, brechdanau a chacennau blasus, ac mae hefyd yn lle gwych ar gyfer beicwyr a cherddwyr.
Castell Deudraeth
Yng Nghastell Deudraeth, gallwch fod yn siŵr o awyrgylch clyd, cyfeillgar ynghyd â gwasanaeth heb ei ail, a phrydau sy’n syml ond eto’n ddigon o sioe ar eich plât.
Hotel Portmeirion
Mae'r Bwyty Art Deco arobryn yn prysur wneud enw da am ei arlwy arloesol uchelgeisiol. Dewch i fwynhau Cinio neu De Prynhawn ar y Teras neu i gael blas ar y fwydlen table d'Hote gyda'r nos.
Y Llew Coch
Mae'r Llew Coch yng nghanol Dinas Mawddwy gydag awyrgylch gwych, traddodiadol ond bywiog lle mae hanes y dafarn hon yn eich gorchuddio o'r eiliad i chi gerdded i mewn.
The Buckley Arms
Ymlaciwch a mwynhewch pryd o fwyd yn y Bistro sydd ar agor bob nos yn y tymor uchel. Mae bwydlen amrywiol ar gael, gan gynnwys prydau llysieuol, bwyd môr, cig eidion a chig oen Cymru.