Llefydd i fwyta
Bwyty Blondin
Mae Bwyty Blondin wedi'i leoli yn Zip World Chwarel Penrhyn ym Methesda. Mae'n lleoliad modern, ar ffurf bistro, yn cynnig cynnyrch lleol.
Bwyty'r Copa
Bwyty ym mhentref Llanberis yw'r Peak, sydd wedi'i leoli mewn rhan hyfryd o Eryri, lle mae miloedd o gerddwyr, dringwyr a phobl leol yn mynychu gydol y flwyddyn.
Caffi Meinir
Wedi ei leoli yn Nant Gwrtheyrn, hen bentref chwarelyddol sydd bellach yn gartref y Ganolfan Iaith Genedlaethol, mae Caffi Meinir, sydd hefyd yn fwyty trwyddedig, yn gweini amrywiaeth o brydau cartref, byrbrydau a lluniaeth.
Castle Cottage Harlech
Argymhellir y bwyty yn Castle Cottage yn y prif ganllawiau bwyd - ac wedi ei gynnwys parhaus am y 25 mlynedd diwethaf! Maent wedi adeiladu enw da yn gyson am fwyd da, ymysg y trigolion lleol a gydag ymwelwyr â'r ardal.
Clio Lounge
Wedi'i leoli yng nghanol Bangor, mae Clio Lounge yn lle cartrefol, yn cynnig bwyd a diodydd blasus trwy'r dydd. Mae ganddyn nhw hefyd eu hopsiynau bwydlen fegan a di-glwten eu hunain.
Crust Pizzeria
Bwyty a tecawê wedi'i drwyddedu'n llawn yn Abersoch yn gweini pizza ffres gan ddefnyddio'r cynhwysion gorau yn unig.