Llefydd i fwyta
Y Castell
Mae Gwesty Y Castell ar y sgwâr yng nghanol tref hanesyddol Caernarfon. Mwynhewch olygfeydd o Gastell Caernarfon wrth gael coffi, diod neu ginio ysgafn. Mae llawer o atyniadau twristaidd Caernarfon ond tafliad carreg i ffwrdd.
Y Gwynedd Bar & Diner
Mae'r Gwynedd Bar & Diner yn Llanberis yn ddim ond 5 munud o gerdded i Reilffordd yr Wyddfa ac o fewn pellter cerdded i'r rhan fwyaf o atyniadau lleol.
Y Llechan | The Slate
Yn aml nid yn unig awyrgylch, addurn a naws gyffredinol bwyty sy'n gwneud noson allan gwych ond hefyd ansawdd y staff, natur gwrtais a chymwynasgar ac yn bendant ansawdd y bwyd, digonedd o ddewis ac wrth gwrs ei gyflwyniad.
Tafarn y Bachgen Du
Dyfarnwyd Gwobr Efydd Croeso Cymru i'r bwyty enwog yn Nhafarn y Bachgen Du ac mae yna ddewislen bwyd ar gyfer pob blas.
The Lion Hotel
Mae’r Lion yn dafarn draddodiadol yng nghanol pentref Tudweiliog. Rydym yn cynnig bwyd da, cwrw lleol a dewis eang o wisgi brag a dewis cynyddol o jin.