Atyniadau
Glasfryn Parc
Gweithgaredd, Atyniadau
Ble wnawn ni ddechrau? Meddyliwch am weithgaredd ac mae’n debygol iawn y bydd cyfle i chi ei wneud yma. Ymysg y gweithgareddau sydd ar gael mae go karts, beiciau cwad, saethyddiaeth, pysgota a bowlio deg.
Plas yn Rhiw
Atyniadau
Dyma blasty bach a pherffaith Tuduraidd/Sioraidd sy’n dyddio o’r 17eg Ganrif a sydd bellach yng ngofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae lleoliad y plasty yn ei hun yn werth ei weld.
Porth y Swnt
Atyniadau
Dyma ganolfan ddehongli newydd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ym mhen draw Llŷn. Mae dyluniad syml i’r ganolfan ac mae wedi’i hysbrydoli gan bensaernïaeth Aberdaron a chefndir morwrol y pentref.
Porthdinllaen
Atyniadau
Hen bentref bach pysgota yw Porthdinllaen, gydag ymrwymiad cryf â’i môr. Mae’r traeth tywodlyd yn ehangu dros gildraeth perffaith a harbwr naturiol, lle ceir Gorsaf Bad Achub ar un pen.
Morfa Nefyn, Gwynedd, LL53 6DA
Traeth Aberdaron
Atyniadau
Yn Aberdaron, ar Arfordir Treftadaeth Llŷn, ceir traeth tywodlyd godidog sydd â mynediad rhwydd (yn cynnwys mynediad anabl).
Aberdaron, Gwynedd, LL53 8BE
Traeth Abersoch
Atyniadau
Yn Abersoch fe ddewch ar draws un o’r traethau fwyaf poblogaidd Llŷn Peninsula - a sicr un o’r rhai mwyaf bywiog. Mae’r prif draeth yn le gwych ar gyfer gorweddian gan ei fod mewn man hyfryd a chysgodol.
Abersoch, Gwynedd, LL53 7EF