Atyniadau
Amgueddfa Lechi Cymru
Atyniadau
Lleolir Amgueddfa Lechi Cymru yng ngweithdai Fictoraidd hen chwarel Dinorwig, yng nghysgod Mynydd Elidir. Yma, gallwch deithio nôl i weld gorffennol diwydiant a ffordd o fyw sydd bellach yn rhan annatod o hunaniaeth Cymru.
Neuadd Dwyfor - Canolfan Gelfyddydol a Sinema
Atyniadau
Mae’r adeilad Fictorianaidd hwn, a adeiladwyd yn 1902 bellach yn ganolfan gelfyddydol fywiog a chyfoes ac yn gartref i lyfrgell Pwllheli.
Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri
Atyniadau
Rydym wedi ailagor yma yn Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri ac rydym yn falch iawn o rannu ein pedwar pecyn profiad newydd!
Cymerwch olwg ar ein set newydd o brofiadau ar gyfer y Gwanwyn / Haf hwn:
SAORImôr
Gweithgaredd, Atyniadau
Mae SAORI yn ddull rhydd o wehyddu o Siapan, sy'n annog pobl i fynegi eu hunain yn reddfol. Gall gwehyddu gyda lliw a swmp y gwead godi eich hwyliau.
Sinema Magic Lantern
Atyniadau
Mae Sinema Magic Lantern wedi bod yn Nhywyn ers 1893, ac fe'i hadeiladwyd gyntaf fel ystafelloedd ymgynnull y dref. Roedd yn un o'r sinemâu gweithredol cyntaf yn y DU gyda phrawf yn bodoli bod ffilmiau wedi'u dangos yma ers 1900.