Atyniadau
Tŷ Mawr Ynysypandy
Atyniadau
Roedd chwarel Gorseddau yng Nghwmstradllyn wedi cael ei gweithio ar raddfa fechan ers 1836 ond cafodd ei datblygu yn sylweddol o 1854 ymlaen.
Cwm Ystradllyn, Garndolbenmaen, Gwynedd, LL51 9AZ
Moto Junkies
Gweithgaredd, Darparwr Gweithgareddau
Wedi'u lleoli yn Nolgellau, mae MOTO Junkies yn dîm o feicwyr modur ymroddedig sy'n rhannu eu gwybodaeth a'u profiad i helpu beicwyr i adeiladu eu sgiliau ar y ffordd ac oddi ar y ffordd a'u paratoi ar gyfer eu hanturiaethau eu hunain.
MountainXperience
Darparwr Gweithgareddau
Mae MountainXperience yn gweithredu o gwmpas Parc Cenedlaethol Eryri ac yn arbenigo mewn rhoi profiad o'r mynyddoedd ni fyddwch byth yn ei anghofio.
Muriau Tref Conwy
Atyniadau
Dros 3/4m (1.2km) o furiau tref, un o’r setiau mwyaf cyflawn yn Ewrop gydag un ar hugain o dyrau a thri phorth, sy'n amgau'r rhan fwyaf o'r dref. Safle Treftadaeth y Byd.
Oriel Plas Glyn-y-Weddw
Atyniadau
Mae'r oriel gelf unigryw yma wedi ei lleoli yn Llanbedrog ym Mhen Llŷn darluniadwy. Mae'r Plasty Fictorianaidd Gothig wedi ei restru'n radd II yma yn lle perffaith i weld peth o gelf cyfoes gorau Cymru.
Parc Glynllifon
Atyniadau
Dyma berl annisgwyl! Byddwch yn darganfod gerddi hanesyddol helaeth - rhestredig Gradd I - gyda llwybrau cerdded drwy’r coedwigoedd, ffoleddau a cherfluniau.