Llefydd i fwyta
Cegin Ceri
Caffi, Deli a Siop yn gwerthu cynnyrch ffres lleol. Mae croeso i seiclwyr, gydag ardal storio ddiogel, gorsaf waith proffesiynol a phwmp aer.
Cwellyn Arms
Mae Cwellyn Arms yn dafarn lleol gyda llety ar droed Yr Wyddfa ym mhentref Rhyd Ddu ar ffordd A4085 Caernarfon i Beddgelert 4 milltir o Beddgelert, ym Mharc Cenedlaethol Eryri, Gogledd Cymru.
Indiana Cuisine
Mae Indiana Cuisine yn darparu bwydydd Indiaidd dilys ym mhentref arfordirol hyfryd Fairbourne. Profwch ansawdd eithriadol y bwyd gyda lletygarwch o'r radd flaenaf.
Ty’n Llan
Tafarn gymunedol yw Tŷ'n Llan sydd wedi'i lleoli ym mhentref prydferth Llandwrog ger Caernarfon.
Tŷ Mawr Tea Room
Mae Tŷ Mawr yn 200 mlwydd oed ac wedi'i leoli ym mhentref Rhyd Ddu wrth droed Yr Wyddfa.
Pant Du - Tŷ Bwyta & Bar
Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt.