Pant Du - Tŷ Bwyta & Bar

Ffordd y Sir, Penygroes, Gwynedd, LL54 6HE

Retail Phone Number Phone Number icon for Snowdonia retail page 01286 881819

Retail Email Email icon for Snowdonia retail page post@pantdu.co.uk

Retail Screen Screen icon for Snowdonia retail page http://www.pantdu.co.uk

Mae Tŷ Bwyta Pant Du ar lethrau un o ddyffrynnoedd harddaf Eryri - Dyffryn Nantlle. Mae yna ffenestri gwydr ar draws yr adeilad i fwynhau golygfeydd o’r winllan a’r berllan, a mynyddoedd trawiadol Eryri a thu hwnt. Cewch ddewis gwych o brydau cartref poeth ac oer ar y fwydlen, yn ogystal â detholiad o brydau plant, a chacennau cartref blasus. Mae Pant Du yn falch o gefnogi cynhyrchwyr bwyd a diod lleol. Yn ychwanegol at win, seidr, a sudd afal Pant Du mae dewis eang o ddiodydd meddal, neu lager drafft oer, dewis o gwrw lleol Cymreig, a gwinoedd safonol o bob cwr o’r byd. Mae digon o fyrddau i eistedd tu mewn neu du allan ar y patio ac yn yr ardd. Lleoliad perffaith ar gyfer cymdeithasu a mwynhau mewn awyrgylch cynnes a chroesawgar.

Gwobrau

  • Thumbnail

Mwynderau

  • Yn agos i gludiant cyhoeddus
  • Parcio
  • Llwybr beicio Ffordd Brailsford Way gerllaw
  • Mynedfa i’r Anabl
  • Croeso i bartion bws
  • Derbynnir cardiau credyd
  • Toiled
  • Gwybodaeth i ymwelwyr
  • Croesewir teuluoedd
  • WiFi ar gael
  • Taliad Apple
  • Pwynt gwefru cerbydau trydan
  • Toiledau Anabl
  • Cyfleusterau newid babanod
  • WiFi am ddim
  • Talebau rhodd ar gael